Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch y ffwrn i 180°C/160°C ffan/350°F.
Mewn dysgl, ychwanegwch y gwreiddlysiau gyda’r pupurau, y tsili, yr hadau cwmin a phaprica a phinsiad o halen gyda’r olew olewydd a’u rhoi ar glawr pobi a’u rhostio am 20 munud.
Yn y cyfamser, cynheswch sblash o olew mewn padell ffrio ar wres canolig. Pan fydd yn dechrau creu mwg, ychwanegwch y winwns a’u ffrio am 2 funud. Wrth ei droi, ychwanegu’r garlleg, y tsili, y sinsir a’r cwmin a’i goginio am 5 munud wrth droi. Os bydd yn dechrau glynu, ychwanegwch 3 llwy fwrdd o ddŵr a pharhau i goginio am weddill y 5 munud.
Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi mewn dysgl a’i oeri am 5 munud. Ychwanegwch y sôs coch, coriander, sudd leim, shibwns a chaws a’u cymysgu’n ysgafn.
Unwaith y bydd y gwreiddlysiau wedi coginio, dylid eu tynnu o’r ffwrn a’u gadael i oeri am 5 munud. Cymysgwch y gwreiddlysiau gyda’r gymysgedd caws a’i flasu. Addaswch gyda halen a phupur os oes angen.
Rhowch tortila ar yr arwyneb gwaith a thaenwch ⅛ o’r cymysgedd drosto.
Plygwch hanner arall y tortila fel bod gennych hanner cylch. Ailadroddwch gyda’r holl ddarnau tortila eraill.
Cynheswch badell ffrio dros wres canolig gyda sblash o olew llysiau ynddo a rhoi eich tortila wedi’i lenwi yn y badell (neu ddau os oes gennych le) a’i goginio am 2 i 3 munud cyn ei droi drosodd yn ofalus a’i ffrio am 2 i 3 munud arall. Dylai’r ddwy ochr fod yn hyfryd a brown - ac ychydig yn grimp! Gweinwch gyda salad o’ch dewis a gwacamole a salsa.
Awgrym: Os oes unrhyw gymysgedd ar ôl bydd yn cadw yn yr oergell am ddau ddiwrnod i’w ddefnyddio eto, neu mae’n wych ar datws pob neu mewn omled. Gall y quesadillas hefyd gael eu cadw yn yr oergell hyd at ddiwrnod ymlaen llaw, felly mae’n fwyd parti gwych i’w gael yn barod!
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.