Skip page header and navigation

Pwdin bara menyn sawrus

Pwdin bara menyn sawrus

Pa ffordd well o ddefnyddio hen dorth o fara na gwneud pwdin bara menyn cynnes? Argymhellir y pryd blasus hwn gan Le Creuset.
Gan Le Creuset
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr+
Pedair troellen o bwdin bara menyn sawrus mewn dysgl ceramig gron

Cynhwysion

1 cenhinen fawr, tua 250g
Darn o fenyn heb halen
Winwnsyn gwyn bach, wedi'i sleisio
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 ewin garlleg, wedi'i fathru
4 sbrigyn o deim, dail wedi'u casglu
Pinsiad o halen môr
100g o fadarch castan, wedi'i chwarteru
500ml o laeth cyflawn
3 wy
1 llwy de o nytmeg
1 hen dorth, tua 400g
75g o gaws glas meddal
75g o ham

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Torrwch y genhinen yn gylchoedd 2cm a’i rhoi mewn sosban o ddŵr berwedig a blansio’r genhinen am 3 munud i feddalu, yna ei draenio a’i rhoi i un ochr.

  2. Toddwch ddarn o fenyn mewn dysgl gaserol ac yna ychwanegu’r winwnsyn wedi’i sleisio a’i ffrio am 5 munud dros wres canolig. Ar ôl i’r winwnsyn feddalu a dechrau carameleiddio, ychwanegwch y garlleg a’r teim i’r badell gyda phinsiad o halen a pharhau i ffrio am 3 munud arall. Ychwanegwch y madarch a’r cennin i’r badell a’u tynnu oddi ar y gwres.

  3. Mewn jwg mawr cyfunwch y llaeth, yr wyau a’r nytmeg a’u curo’n ysgafn ac yna torri neu rwygo’r bara yn dalpiau 4cm.

  4. Cyfunwch hanner y bara gyda’r cymysgedd winwns a chennin yn y badell ac yna rhoi hanner y caws a’r ham yn gyfartal o amgylch y badell. Rhowch y bara, y caws a’r ham sy’n weddill dros y top ac arllwys y cymysgedd wy drosto.

  5. Gadewch i’r bara socian am o leiaf 30 munud cyn ei goginio. Tra bod y bara yn socian cynheswch y ffwrn i 190°C/ Marc Nwy 5 a phobi’r pwdin bara menyn am 25 - 30 munud tan ei fod yn euraidd a chrimp.

  6. Gweinwch gyda salad gwyrdd neu lysiau tymhorol.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.