Skip page header and navigation

Pitsa bach o grystiau bara

Pitsa bach o grystiau bara

A ydych yn anghofio am grystiau eich bara ar waelod y bag bara? Dyma ffordd hwyliog o'u defnyddio cyn iddyn nhw fynd yn hen!

Dyma rysáit blasus a hawdd, perffaith i gogyddion ifanc ei dilyn gyda'u rhiant/gwarcheidwad.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 1
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Sgwariau o ddarnau pizza gyda thomatos a chaws ar eu pennau

Cynhwysion

Crystiau o ddiwedd torth
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda, cofiwch ei ddadmer ar dymheredd ystafell.
Bwyd sydd angen ei ddefnyddio
Edrychwch yn eich oergell!
Tomatos
Perlysiau wedi'u torri
Caws wedi'i gratio
Pupur i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynhesu’r ffwrn i 180°C.

  2. Rhowch y crystyn (crystiau) ar glawr pobi.

  3. Taenwch y tomatos dros y crystiau ar gyfer eich sylfaen pitsa.

  4. Crëwch eich topin eich hun gan ddefnyddio’r bwyd rydych chi wedi’i ddarganfod sydd angen ei fwyta.

  5. Gwasgarwch ychydig o berlysiau a llwy de o gaws wedi’i gratio drostynt, ac yna ychwanegu blas gydag ychydig o bupur.

  6. Pobwch am tua 15 munud.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Mae’n well ei weini’n ffres
Amser
Ddim yn berthnasol
Ble i’w storio
Ddim yn berthnasol
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.