Skip page header and navigation

Pitsa ciabatta cyflym

Pitsa ciabatta cyflym

Mae'r fersiwn cyflym hwn o bitsa yn flasus, yn gyflym i'w wneud ac yn amlbwrpas. Gallwch ddefnyddio pob math o gynhwysion a'i lwytho â llawer o wahanol dopin.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 3
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Pizzas wedi’u gwneud ar fara wedi’i dorri ar ei hyd gyda thopin llysiau a chaws

Cynhwysion

1 torth ciabatta, wedi'i thorri'n hanner ar ei hyd
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda. Dylid ei dadmer dymheredd ystafell neu ei thostio’n syth o'r rhewgell.
250g o lysiau, wedi'u torri'n fras, e.e 1 pupur coch, 1 pupur melyn, madarch
1 winwnsyn mawr, wedi'i sleisio'n denau
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
3-4 ewin garlleg, wedi'i fathru
Diferyn olew olewydd
1 llwy de o oregano sych
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal.
Pinsiad da o bupur
200g o domatos ffres neu domatos tun, wedi'u torri'n fân
125g pêl o mozzarella, wedi'i sleisio'n denau, neu unrhyw gaws wedi'i gratio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Ychwanegwch yr olew i sosban gyda’r winwnsyn a’i goginio am 2 funud, yna ychwanegu’r llysiau eraill a’u troi’n rheolaidd am 5 munud gan sicrhau eu bod wedi’u coginio’n gyfartal.

  2. Ychwanegwch y garlleg, yr oregano, y pupur du a’r tomatos wedi’u torri a’u cymysgu’n dda, a’u coginio tan eu bod yn berwi, yna trowch y gwres i lawr, gorchuddio’r gymysgedd a’i fudferwi am 3-4 munud.

  3. Rhowch y ciabatta ar glawr pobi a thaenwch y llysiau’n gyfartal dros y top. Yna trefnu’ caws a’i bobi yn y ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw i 200°C / Nwy 7 / 425°F am 8-10 munud.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.