Skip page header and navigation

Pei cig oen, sbigoglys a ffeta Groegaidd

Pei cig oen, sbigoglys a ffeta Groegaidd

Mae'r pryd gwych hwn yn gwneud y gorau o gig oen rhost dros ben, gan gymryd ei ysbrydoliaeth o flasau aromatig coginio Groegaidd ac yn defnyddio'r toes ffilo clasurol. Gellir lapio unrhyw does sydd dros ben mewn haenen lynu a'i rewi i'w ddefnyddio rhyw dro arall. Mae croeso i chi arbrofi gyda gwahanol berlysiau sych neu ffres a allai fod gennych yn y gegin.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Pastai euraidd o friwgig oen, sbigoglys a ffeta

Cynhwysion

Pecyn 250g o does ffilo (bydd gennych beth dros ben)
Gwnewch ychydig o dartenni jam neu aeron ar gyfer trît syml er mwyn defnyddio’r toes sydd dros ben
75g o fenyn (wedi'i doddi)
200g o goes cig oen rhost, wedi'i sleisio'n fân
1 winwnsyn mawr neu 2 winwnsyn bach, wedi'u torri
2 ewin garlleg, wedi'i dorri'n fân (neu 2 llwy de o biwrî garlleg)
200g o ddail sbigoglys (ffres neu wedi'u rhewi)
150g caws ffeta, wedi’i friwsioni
1 llwy de mintys sych
1 llwy de o oregano sych
4 llwy fwrdd o bersli dail fflat ffres wedi'i dorri
Croen of 1 lemon
Gwasgwch y sudd nas defnyddiwyd a'i rewi mewn clawr ciwbiau iâ
Olew olewydd
Halen a phupur i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  1. Cofiwch ddadmer eich cig drwy ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

  2. Cynheswch ychydig o olew olewydd mewn padell fawr ar wres canolig ac yna ychwanegu’r winwns a’u meddalu am ychydig funudau, cyn ychwanegu’r garlleg, yr oregano a’r mintys a’u ffrio ar wres isel-canolig am 2 funud i ganiatáu i’r winwnsyn feddalu.

  3. Ychwanegwch y darnau o gig oen wedi’i dorri, ac yna ychwanegu digon o flas gyda halen a phupur.

  4. Ychwanegwch y sbigoglys mewn sypiau, gan ganiatáu iddo wywo’n araf. Gorffennwch gyda’r persli ffres a chroen lemon a’u cymysgu’n dda ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a’i roi i’r naill ochr.

  5. Rhowch 2 ddalen o does ffilo i mewn i ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn, gan ganiatáu i’r ymylon ddisgyn dros yr ochrau. Gan ddefnyddio brwsh toes, brwsiwch o amgylch y gwaelod a’r ochrau gyda menyn wedi toddi. Ailadroddwch y broses ddwywaith, fel bod gennych 6 haen o does i gyd.

  6. Llenwch y cymysgedd cig oen a sbigoglys, ac yna gwasgaru’r ffeta wedi’i friwsioni ar ei ben.

  7. Dewch â’r ochrau i mewn a brwsio top eich toes gyda menyn wedi toddi.

  8. Coginiwch mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (180°C/160°C Fan) am 45 munud – 1 awr, nes bod y ffeta wedi toddi a’r toes yn euraidd. Gweinwch y pryd blasus hwn gyda salad tomato ffres.

  9. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta’r tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer  diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Yn syml, cofiwch ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.

Dysgl o gyw iâr wedi’i bobi gyda lemwn

Mae Sascha yn Hugh Grierson Organic, fferm deuluol yn Swydd Perth, yn dangos i ni sut i roi sbeis i’r briwgig a’r thatws hynny ar Noson Calan Gaeaf.

a plate of spiced pumpkin slices, mince and a layer of creamy mash

Mae hwn yn ddewis arall gwych i ginio rhost clasurol, ac mor hawdd: y cyfan sydd angen i chi ei wneud mewn gwirionedd yw torri ychydig o lysiau!

a traybake containing a crispy whole roast chicken surrounded by a variety of roasted bright vegetables

Mae'r blasau gwin cynnes y mae'r cyw iâr wedi'i goginio ynddo yn flasus wedi'i weini â thatws stwnsh cennin hufennog neu datws pob neu gallech hyd yn oed ei weini â chwscws. Gweinwch gyda llysiau tymhorol neu fresych coch wedi’i frwysio.

Dysgl rostio yn llawn cyw iâr euraidd wedi’i frwysio a llysiau wedi’u torri

Manteisiwch i’r eithaf ar fwyd dros ben o bryd o fwyd Nadolig trwy gyfuno twrci wedi'i goginio, saws llugaeron a stwffin yn y bastai Nadoligaidd hon.

Pedair pastai wedi’u gorchuddio â thoes euraidd ar blât gweini

Swper un ddysgl cyflym i un sy'n flasus ac yn arbed ar olchi llestri!

Powlen werdd yn cynnwys llawer o nwdls euraidd gyda llysiau wedi’u cymysgu ynddi

Tri syniad gwych ar gyfer topins, i ddefnyddio unrhyw datws wedi’u coginio dros ben sydd gennych.

Tatws bach gyda chaws, winwns a darnau bacwn ar eu pennau

Tro Albanaidd ar glasur Mecsicanaidd, gallwch chi addasu'r wraps hyn gydag unrhyw beth sydd gennych wrth law, o faip dros ben i domatos ffres.

Pastai gyda thatws stwnsh ar ei phen, gyda hagis ynddi

Pryd cynnes ac egsotig ar gyfer y gaeaf, mae'r tajîn hwn yn naws gwych ar gyfer bwyd dros ben y Nadolig.

A plate of vibrant turkey tagine served with white rice and peas

Y syniad y tu ôl i'r pryd hwn yw helpu gyda gwastraff bara, reis a gwreiddlysiau a rhywbeth ar gyfer unrhyw un sy’n hiraethu am eu hoff fwyty cyri katsu (dim enwau!).

Dogn o gyri katsu gyda darnau cyw iâr a reis gwyn
Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.