Skip page header and navigation

Darnau o datws bach llwythog

Darnau o datws bach llwythog

Mae tatws newydd yn sylfaen berffaith ar gyfer unrhyw nifer o ddanteithion sawrus hyfryd. Dyma dri syniad topin gwych ond defnyddiwch unrhyw datws sydd wedi’u coginio dros ben sydd gennych.

Mae pob llenwad yn gwneud digon ar gyfer 24 o datws newydd bach. Gellir eu gwneud o flaen amser a'u coginio yn syth o'r rhewgell.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 24
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Tatws bach gyda chaws, winwns a darnau bacwn ar eu pennau

Cynhwysion

12 taten newydd

Topin twrci a chorn

250g o dwrci wedi'i goginio, wedi'i dorri'n ddarnau bach
Tun 125g o india-corn
2 lwy fwrdd o gaws hufen
25g o gaws caled cryf wedi'i gratio
3 shibwns, wedi'u torri'n fân
Halen a phupur du

Topin cig moch a chaws

150g o gig moch
25g o fenyn
1 llwy fwrdd o fwstard
50g o gaws caled cryf, wedi'i gratio
Defnyddiwch beth bynnag sydd gennych yn yr oergell
3 llwy fwrdd o hufen sur neu crème fraîche
2 shibwns, wedi'u torri'n fân
Pupur du

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Dylech ferwi, stemio neu rostio’r tatws tan eu bod yn feddal, eu draenio a’u rhoi i un ochr tan eu bod yn ddigon oer i’w trin.

  3. Hanerwch y gymysgedd ac yna defnyddio pen handlen llwy de i wneud ychydig o bant i gnawd y daten wedi’i choginio ac arbed unrhyw ddarnau o datws i’w cymysgu yn y llenwad.

  4. Cymysgwch y llenwad o’ch dewis (gweler isod) ac yna defnyddio llwy de i ychwanegu ychydig o lenwad i bob taten.

  5. Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6 a rhoi’r tatws ar glawr pobi ag olew. Coginiwch heb ei orchuddio, am tua 15-20 munud neu tan eu bod yn frown euraidd ac yn boeth, yna eu tynnu o’r ffwrn a’u gweini’n gynnes.

  6. Topin twrci a chorn

     

    Cyfunwch y cnawd tatws gyda’r twrci wedi’i dorri a’r cynhwysion sy’n weddill mewn dysgl ganolig a’i roi ar y tatws. Parhewch yn unol â’r cyfarwyddiadau uchod.

  7. Topin cig moch a chaws

    Coginiwch y cig moch mewn padell ffrio fawr tan ei fod yn grimp, yna ei ddraenio ar bapur cegin a’i dorri’n fân.



    Ychwanegwch y cnawd tatws mewn dysgl ganolig gyda menyn, mwstard, hanner y caws a hufen sur; a chymysgu’r cig moch a’r shibwns ac yna ychwanegu blas gyda phupur du. Rhowch y llenwad ar y tatws; a gwasgaru gweddill y caws wedi’i gratio drostynt. Parhewch yn unol â’r cyfarwyddiadau uchod.

        

  8. I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3. Rhowch ar glawr fflat a’i rewi tan ei fod yn solet yna casglu’r tatws a’u pacio mewn cynhwysydd aerglos, eu labelu a’u rhewi am hyd at 3 mis.



    I’w ddefnyddio: Coginiwch y tatws wedi’u rhewi a chwblhewch y rysáit o gam 4 a chaniatáu 5 munud o amser coginio ychwanegol.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.