Skip page header and navigation

Burrito hagis

Burrito hagis

Tro Albanaidd ar glasur Mecsicanaidd, gallwch chi addasu'r wraps hyn gydag unrhyw beth sydd gennych wrth law, o faip dros ben i domatos ffres.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Pastai gyda thatws stwnsh ar ei phen, gyda hagis ynddi

Cynhwysion

Bara tortila meddal (1 fesul burrito)
Unrhyw hagis dros ben sydd gennych
Reis (defnyddiwch fwyd dros ben os oes gennych rai, cofiwch ddefnyddio reis o fewn 24 awr i'w goginio a'i ailgynhesu nes ei fod yn chwilboeth)
Gwacamole
Caws wedi'i gratio (tua llond llaw)
Salsa a hufen sur i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch eich bara tortila yn y microdon am tua 20 eiliad, i’w gwneud yn haws eu plygu.

  2. Trefnwch y reis mewn twmpath yng nghanol y bara tortila, yna ychwanegu’r hagis, y caws, y gwacamole, ac unrhyw sawsiau neu lysiau ychwanegol yr ydych yn eu hoffi.

  3. Plygwch y tortila i mewn ar y ddwy ochr, yna plygu’r hanner gwaelod i fyny i’r top, rhowch ymyl y bara tortila o dan y llenwad, a’i rholio i fyny fel ei fod yn troi’n siâp burrito!

  4. Cynheswch radell ar wres canolig, a thostio tu allan y burrito am tua 4 munud ar bob ochr tan ei fod yn gynnes.

  5. Gweinwch gyda salsa a hufen sur ar yr ochr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Mae’n well ei fwyta ar unwaith
Amser
Ddim yn berthnasol
Ble i’w storio
Ddim yn berthnasol
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.