Skip page header and navigation

Ffiled porc seidr

Ffiled porc seidr

Mae'r rysáit hon yn cynnwys stwffin bricyll cain gyda saws seidr melys ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio bara dros ben.

Mae gwneud stwffin cartref yn ffordd wych o ddefnyddio bara sydd dros ben a gellir storio'r briwsion bara yn y rhewgell i'w defnyddio rywdro eto.

I gael fersiwn llysieuol o'r pryd hwn, gwnewch y stwffin yn beli a'i weini gyda thorth cnau rhost.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Ffiled o borc suddlon wedi’i sleisio gyda garnais deiliog

Cynhwysion

Ffiled porc 400g
Mae'r rysáit hon yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a dadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.

Stwffin

1 sleisen o fara gwenith cyflawn
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae unrhyw fara yn gweithio'n dda, gan gynnwys bara wedi'i rewi ac wedi'i ddadmer ar dymheredd ystafell.
1 winwnsyn bach, wedi'i dorri'n fân
50g o fricyll sych, wedi'u torri'n fân
1 wy buarth canolig
1 llwy fwrdd o deim ffres neu 1 llwy de o deim sych
Pupur du i ychwanegu blas

Saws

200ml o seidr melys
Er mwyn defnyddio unrhyw seidr sydd dros ben, potsiwch afalau mewn seidr a rhowch gymysgedd crymbl ar ei ben i gael fersiwn blasus o grymbl afalau.
1 llwy fwrdd o crème fraîche braster isel

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C Ffan/Nwy 4.

  3. Torrwch hollt i lawr canol y ffiled porc tan tua 2cm o’r gwaelod ac yna agor y ffiled fel ei fod yn gorwedd yn fflat ar fwrdd torri. Gorchuddiwch â haenen lynu yna gan ddefnyddio rholbren i’w fflatio i drwch o 2cm ac yna thaflu’r haenen lynu.

  4. Ar gyfer y stwffin, gwnewch friwsion bara trwy rwygo’r bara a’u rhoi mewn prosesydd bwyd am ychydig eiliadau tan fod y bara yn friwsion bara mân. Fel arall, gratiwch y bara yn fân ac yna rhoi’r briwsion bara mewn dysgl gymysgu fawr gyda gweddill cynhwysion y stwffin. Ychwanegwch flas gyda phupur du a’i gymysgu’n dda nes bydd yr holl gynhwysion wedi’u cyfuno.

  5. Rhannwch y ffiled yn ddau ddogn yna rhowch y stwffin yn gyfartal ar hyd canol y ddwy ffiled. Rholiwch bob ffiled, gan ddechrau gyda phen hir ac yna gan ddefnyddio llinyn cegin i glymu’r ffiledau bob 5cm. Gellir gweini’r stwffin hefyd wedi’i rolio’n beli a’i bobi â golwythion porc.

    Ar yr adeg hon, gellir rhoi un ffiled wedi’i stwffio i’r naill ochr i’w rhewi.

     

  6. Rhowch weddill y ffiled mewn padell rostio fach, ac ychwanegu blas gyda phupur du ac arllwys y seidr drosto. Gorchuddiwch y tun gyda ffoil a’i roi yn y popty am 35 munud. Tynnwch y ffoil yn ystod y 10 munud olaf o goginio.

  7. Trosglwyddwch y porc i blât cynnes i orffwys ac arllwys y sudd seidr i mewn i sosban fach tan ei fod yn berwi, yna mudferwch yn ysgafn am 5 munud a’i dynnu oddi ar y gwres a churo’r crème fraîche i mewn.

    Os nad yw’r saws wedi tewychu, rhowch ef yn ôl ar y gwres am ychydig funudau a’i fudferwi. Torrwch y porc yn chwe darn gwastad a’i weini gyda’r saws seidr.

    Mae’r rysáit hon yn flasus wedi’i gweini gyda thatws hufennog a llysiau tymhorol.

     

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, oergell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.