Skip page header and navigation

Pastai llysiau â chrwst pwff

Pastai llysiau â chrwst pwff

Mae crwst pwff yn trawsnewid llysiau dros ben diflas yn bryd o fwyd newydd sbon!
Gan Jane Hughes
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Pastai lysiau grystiog wedi’i thorri’n dafelli a’i haenu â chaws a llysiau gwyrdd

Cynhwysion

1 pecyn o does pwff wedi'i rolio'n barod
Gwiriwch y pecyn i wneud yn siŵr ei fod yn addas i lysieuwyr!
Digon o lysiau wedi'u coginio dros ben i lenwi'r ddysgl ydych chi am ei ddefnyddio
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi! Gellir defnyddio brocoli, asbaragws, pys a phob math o ffa.
Digon o saws o'ch dewis i orchuddio'r llysiau yn y ddysgl bastai
Gallwch ddefnyddio unrhyw saws, naill ai saws cartref neu saws parod. Mae saws tomato yn dda gyda llysiau rhost Môr y Canoldir, ac mae saws caws yn dda gyda chennin a thatws.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 190°C.

  2. Torrwch y llysiau’n ddarnau bach a’u rhoi mewn dysgl fawr. (Os ydych am ychwanegu llysiau ychwanegol at eich bwyd dros ben, mae’n well eu coginio yn gyntaf fel nad yw eich pastai yn cynnwys rhai llysiau sy’n fwy cadarn nag eraill. Mae ychwanegu tun o ffa coch neu ffacbys yn ffordd dda arall o wneud eich bwyd dros ben fynd ymhellach, ac yn gwella proffil maethol y ddysgl).

  3. Trowch y saws i mewn i’r llysiau.

  4. Rhowch y toes ar fwrdd â blawd arno. A throi’r ddysgl y byddwch chi’n ei defnyddio ar gyfer y bastai wyneb i waered a’i wasgu’n ysgafn ar y does i wneud argraff ysgafn. Defnyddiwch gyllell finiog i dorri’r siâp allan o’r does. Efallai yr hoffech chi dorri rhai siapiau addurniadol allan o’r darnau o does sydd dros ben ac addurno’r caead y does, neu rolio’r darnau’n stribedi, eu brwsio ag ychydig o laeth neu wy wedi’i guro, a rhoi ychydig o gaws wedi’i gratio a phaprica arnynt, a’u pobi ar glawr pobi wedi’i leinio â phapur pobi ar 190°C am 15 munud i wneud gwelltyn caws cyflym.

  5. Trosglwyddwch y llysiau sawrus i’ch dysgl pastai a rhoi caead y toes ar ei ben yn ofalus ac yna defnyddio blaen cyllell finiog i wneud ychydig o dyllau aer fel nad yw stêm yn cronni o dan y toes a gwneud y gwaelod yn soeglyd!

  6. Pobwch am tua 30 munud – tan fod y crwst yn euraidd ac yn grimp.

  7. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.