Skip page header and navigation

Omled Sbaenaidd

Omled Sbaenaidd

Gall bron iawn unrhyw beth sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio gael ei drawsnewid ar ffurf omled Sbaenaidd. Gallwch gynnwys tatws wedi'u coginio, llysiau wedi'u coginio fel pys, cennin, moron, courgettes, winwns ac ati, y dafell olaf o gig moch a chaws sy'n mynd yn galed o amgylch yr ymylon.
Gan Cyngor Dinas Manceinion
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
A wooden serving spatula picking up a section of Spanish omelette

Cynhwysion

Tatws wedi'u coginio sydd dros ben
Cig moch wedi'i goginio sydd dros ben a/neu selsig wedi'i dorri'n dalpiau
Mae'r rysáit hon yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a dadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
100g o lysiau wedi'u coginio sydd dros ben
1 winwnsyn, coch neu wyn
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 llwy fwrdd o olew, olew olewydd sydd orau ond mae unrhyw olew coginio yn iawn
3 neu 4 wy
3 llwy fwrdd o laeth
50g o gaws wedi'i gratio
Halen a phupur i flasu

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig. Bydd angen i chi ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Torrwch yr wyau mewn powlen a’u curo gyda’r llaeth, yr halen a’r pupur.

  3. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio ddofn dros wres canolig ac ychwanegu’r winwns ac yna eu ffrio nhw tan eu bod yn frown euraidd ac wedi meddalu ychydig. Os ydych hefyd yn defnyddio cig, gellir ei ychwanegu i’r badell nawr a’i ffrio am ychydig funudau.

  4. Torrwch y tatws dros ben a’u rhoi yn y badell (gan eu troi drwy’r amser) ac ychwanegu’r llysiau wedi’u coginio.

  5. Ychwanegwch y cymysgedd wy i’r badell, yna gwasgaru’r caws wedi’i gratio ar ei ben.

  6. Gellir lleihau’r  gwres a gorchuddio’r sosban gyda chaead ac yna ei goginio am tua 12 munud (tan fod yr wy wedi setio) yna ei dorri’n ddarnau a’i weini tra mae’n boeth!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.