Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch y ffwrn i 180°C neu farc nwy 4.
Hidlwch y blawd a’r powdr pobi i ddysgl fawr, ac ychwanegu’r siwgr.
Curwch yr wy mewn dysgl fach gan ddefnyddio fforc.
Arllwyswch y llaeth, olew, mêl a’r wy i’r cymysgedd blawd a’i gymysgu’n dda i ffurfio cytew llyfn.
Trowch y darnau banana i mewn i’r gymysgedd.
Rhowch y cymysgedd i mewn i dun myffins. Mae modd i chi bobi myffins rhagorol a’u tynnu’n ddiogel o’r tun heb ddefnyddio clawr pobi cyn belled â’ch bod yn iro’ch tun bobi yn effeithiol.
Pobwch am 20 munud tan fod y myffins wedi codi ac yn frown euraidd.
Tynnwch y myffins allan o’r tun yn ofalus a gadael iddynt oeri ar restl oeri.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.