Skip page header and navigation

Lolipops banana a siocled wedi'u rhewi

Lolipops banana a siocled wedi'u rhewi

Ffordd wych o ddefnyddio bananas sydd wedi mynd heibio eu blas gorau!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Darnau banana wedi’u gorchuddio â siocled wedi caledu

Cynhwysion

4 banana
Siocled dros ben
Cannoedd a miloedd i addurno
4 ffon lolipop bren

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch fananas wedi’u plicio yn y rhewgell a’u gadael tan eu bod wedi rhewi.

  2. Toddwch ychydig o siocled dros ben, yna ei adael i oeri (peidiwch â gadael iddo setio).

  3. Tynnwch y bananas allan o’r rhewgell a thra eu bod yn dal wedi rhewi, torrwch nhw yn eu hanner, yna rhowch ffon lolipop bren yn un pen o bob banana (i wneud lolipop).

  4. Gorchuddiwch y fanana gyda’r siocled oer a rhowch unrhyw addurniadau/cannoedd a miloedd dros y siocled, yna gadael i’r siocled setio.

  5. Lapiwch y bananas mewn haenen lynu, a’u rhoi mewn bag rhewgell a’u rhewi.

  6. Arhoswch nes eu bod wedi rhewi cyn i chi eu bwyta!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
3 mis
Ble i’w storio
Rhewgell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.