Skip page header and navigation

Consommé ffrwythau cochion

Consommé ffrwythau cochion

Gwnewch argraff ar eich ffrindiau gyda'r pwdin gwych sy’n haws nag y mae'n edrych i’w wneud gan y cogydd gorau Tom Kitchin.
Gan Tom Kitchin
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr 45 munud
Pwdin ffrwythau coch mewn sudd

Cynhwysion

400g o fefus
400g o fafon
200g o siwgr mân
Sudd ½ lemwn
100ml o ddŵr

I weini

100g o fwyar duon
100g o lus
100g o fefus, wedi'i haneru neu wedi'i chwarteru os ydynt yn fawr
100g o fafon
Llond llaw o ddail mintys, wedi'u torri'n stribedi

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Ar gyfer y consommé ffrwythau , rhowch y mefus, y mafon, y siwgr, y sudd lemwn a’r dŵr mewn padell â sylfaen drom a’u berwi’n gyflym, yna lleihau’r gwres a’u mudferwi’n ysgafn am 3-4 munud tan fod yr aeron yn rhyddhau llawer o sudd. Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi i un ochr i oeri ychydig, am 5 munud.

  2. Gosodwch gadach mwslin mawr wedi’i wlychu dros ddysgl fawr, gan adael digon dros yr ochrau. Tipiwch yr aeron a’r sudd yn ofalus i’r mwslin a chodi corneli’r mwslin at ei gilydd dros y ddysgl a’i glymu â chortyn, gan adael darn i’w glymu ar fachyn bargodol (neu efallai handlen drws cwpwrdd cegin), gan hongian y bag mwslin dros y ddysgl. Gadewch i ddiferu’n naturiol am tua 1 ½ awr tan fod yr holl consommé wedi mynd drwy’r bag; peidiwch â chael eich temtio i wasgu’r mwslin neu bydd y consommé yn colli ei eglurder. Gorchuddiwch a’i oeri tan rydych ei angen.

  3. I weini, rhannwch yr aeron ffres rhwng dysglau unigol neu blatiau cawl ac arllwyso’r  consommé ffrwythau o amgylch y ffrwythau a gwasgaru’r mintys wedi’i dorri’n fân drostynt.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Oergell am ddau ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.