Skip page header and navigation

Crymbl afal a mwyar

Crymbl afal a mwyar

Pwdin syml ond blasus ar gyfer defnyddio'r gormodedd o ffrwythau'r hydref.
Gan Cara MacKay
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Dysgl wen o grymbl afalau a mwyar gyda thafelli afal ar y naill ochr

Cynhwysion

Topin Crymbl

240g o flawd plaen
120g o siwgr mân
120g o fenyn heb halen
60g o geirch

Llenwad ffrwythus

600g o afalau
Gallwch ychwanegu ffrwythau eraill all fod angen i chi eu defnyddio e.e. gellyg, eirin, aeron
230g mwyar duon
60g o fenyn heb halen
60g o siwgr demerara
1 llwy de sinamon mâl
2 llwy de o bob sbeis

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 190°C.

  2. Topin y crymbl: Rhowch y blawd a’r siwgr mewn dysgl fawr ac ychwanegu’r menyn a’i rwbio i mewn i’r blawd gan ddefnyddio blaenau eich bysedd i wneud briwsion bara ysgafn.

  3. Topin y crymbl: Peidiwch â’i orweithio neu bydd y crymbl yn mynd yn drwm. Cymysgwch y ceirch yn ofalus i mewn i’r gymysgedd a’i roi o’r neilltu. 

  4. Llenwad ffrwythus: Pliciwch a thorri craidd yr afalau a’u torri’n ddarnau bach a’u rhoi mewn dysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn cyn ychwanegu’r mwyar, gan eu gosod yn gyfartal rhwng yr afalau. Gwasgarwch gyda’r holl sbeis, sinamon a siwgr a’i bobi yn y ffwrn am 5 munud.

  5. Tynnwch o’r ffwrn a gwasgaru’r cymysgedd crymbl ar ei ben cyn ei roi yn  ôl yn y ffwrn a’i goginio am 20-25 munud.

  6. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser a chreu pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y crymbl yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.