Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C/160°C a leiniwch glawr pobi gyda phapur gwrthsaim.
Toddwch y menyn, y menyn pysgnau, y mêl, y sinamon a’r halen gyda’i gilydd yn y microdon, gan droi’n achlysurol tan fod y menyn wedi toddi’n llwyr.
Cymysgwch y ceirch, y banana, y ffrwythau sych a chnau mewn dysgl fawr. Ychwanegwch y cymysgedd menyn wedi’i doddi a’i droi tan ei fod wedi’i gyfuno’n dda.
Trosglwyddwch y cymysgedd i’r clawr pobi, gan wasgu i lawr fel ei fod yn llenwi’r corneli ac yn gwneud haen wastad.
Pobwch am tua 30-40 munud, tan fod y top yn dechrau troi’n frown euraidd.
Oerwch ychydig yn y tun, yna eu troi allan ar weiren oeri a’u gadael i oeri’n llwyr.
Sleisiwch yn sgwariau a’u mwynhau gyda phaned o de!
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.