Skip page header and navigation

Crymblau afalau taffi

Crymblau afalau taffi

Defnyddiwch unrhyw amrywiaeth o afalau pwdin yn y rysáit flasus hon, sy'n cynnwys saws taffi cyflym a chrymbl crimp wedi'i wneud o doesen dros ben ar ei ben.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
a dish of apple crumble with a portion on a spoon

Cynhwysion

Ar gyfer y saws taffi

50g o siwgr brown meddal
100ml o hufen dwbl
15g o fenyn

Ar gyfer y crymbl

1 toesen cylch
1 llwy fwrdd o fenyn, wedi’i feddalu
4 afal pwdin fel Golden Delicious neu Pink Lady
25g o resins

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. I wneud y saws taffi, rhowch y cynhwysion mewn sosban fach a’i chynhesu’n ysgafn tan fod y siwgr wedi toddi ac yna troi’r gwres i fyny a’i fudferwi am 2-3 munud, gan droi’n gyson tan fod y saws wedi tewychu ac yn gorchuddio cefn y llwy. Trosglwyddwch i ddysgl a’i adael i oeri.

  2. Ar gyfer y crymbl rhwygwch y doesen yna ei rhoi mewn prosesydd bwyd a blendio nes bydd yn debyg i friwsion bara mân, fel arall defnyddiwch gratiwr a rhoi briwsion y doesen mewn dysgl gymysgu fach a rhwbio’r menyn i mewn.

  3. Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160° Ffan / Nwy 4 a thynnu creiddiau’r afal gan ddefnyddio digreiddiwr ac yna sgorio o amgylch cylchedd pob afal gyda chyllell fach finiog. Torrwch dafell denau o dop a gwaelod pob afal i greu arwyneb gwastad ac yna rhoi’r afalau mewn tun pobi bach.

  4. Cymysgwch y rhesins gyda 2 lwy fwrdd o saws taffi yna llenwi canol pob afal gyda’r cymysgedd. Taenwch haenen denau o daffi ar ben pob afal yna rhoi’r cymysgedd crymbl ar ei ben, gan wasgu i lawr yn ysgafn i sicrhau bod y crymbl yn glynu.

  5. Pobwch am 25 munud tan fod yr afal yn frau a’r topin yn euraidd ac yn grimp. Gweinwch yn gynnes gyda diferyn o saws taffi.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Mae’n well ei fwyta ar unwaith
Amser
Ddim yn berthnasol
Ble i’w storio
Ddim yn berthnasol
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.