Skip page header and navigation

Meringues mawreddog

Meringues mawreddog

Efallai bod gwneud meringues yn swnio'n frawychus, ond mewn gwirionedd maen nhw'n hynod o syml. Gan ddefnyddio dau gynhwysyn yn unig, gallwch chi greu'r melysion tebyg i gymylau hyn mewn llai nag awr!

A pheidiwch â gwastraffu'r melynwy – gellir eu troi'n gwstard, hollandaise, neu eu hychwanegu at eich cymysgedd wyau wedi'u sgramblo i'w gwneud hyd yn oed yn fwy sidanaidd.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 12
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
A merigue topped with halved stawberries on a green plate with fruit sauce

Cynhwysion

3 gwyn wy
Gallwch rewi'r melynwy i'w ddefnyddio mewn rysáit arall yn ddiweddarach.
175g o siwgr mân

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 150°C a leinio clawr pobi gyda phapur gwrthsaim.

  2. Mewn dysgl gymysgu fawr, curwch y gwynwy ar gyda chwisg drydan ar gyflymder isel am ychydig funudau, tan eu bod yn ewynnu.

  3. Trowch y chwisg i fyny i gyflymder canolig a pharhau i gymysgu am funud, yna ei droi i fyny i’r gosodiad uchel a’u curo tan eu bod yn ffurfio pigynnau caled. Er mwyn eu profi, codwch y chwisg allan o’r ddysgl gymysgu (cofiwch ddiffodd y chwisg yn gyntaf!) a gwirio a yw’r cymysgedd yn gollwng ai peidio. Dylai ddal ei siâp heb ollwng ar y diwedd.

  4. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y cam pig stiff, dechreuwch ychwanegu’r siwgr mân fesul llwy fwrdd ar y tro, gan chwisgo’n barhaus yn uchel. Bydd y gymysgedd yn dechrau tewychu. Parhewch tan fod yr holl siwgr wedi’i gyfuno, a’r cymysgedd yn galed gyda gwead sgleiniog.

  5. Rhowch y cymysgedd ar y clawr pobi wedi’i leinio ymlaen llaw mewn dognau unigol, tua llond llwy fwrdd yr un. Yn dibynnu ar faint eich clawr, efallai y bydd yn rhaid i chi bobi’r meringues mewn dau swp.



    AWGRYM: Os gwelwch fod y papur yn llithro, defnyddiwch ychydig o’r cymysgedd meringue o dan bob cornel i’w helpu i lynu i’r clawr pobi.

  6. Rhowch y meringues yn y ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw, a throi’r gwres i lawr ar unwaith i 140C. Pobwch y meringues am tua 30-40 munud, neu tan fod y meringues yn dechrau brownio. Mae pob ffwrn yn wahanol, felly mae’n well cadw llygad barcud arnynt rhag iddynt losgi.

  7. Diffoddwch y ffwrn a’u gadael yno i oeri am tua 10-15 munud, yna eu trosglwyddo ar rac weiren.

  8. Rhowch hufen a ffrwythau ar ben y meringues, neu eu torri’n fân ar ben hufen iâ, neu ddiferu siocled wedi toddi ar eu pennau – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Lle sych oer hyd at 3 wythnos, rhewgell 1 mis
Ble i’w storio
Lle sych oer neu rewgell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.