Skip page header and navigation

Macarŵns cartref

Macarŵns cartref

Trît melys clasurol Albanaidd, sy'n rhyfeddol o hawdd i'w wneud eich hun!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Macarŵns cartref crwn, crensiog gyda siocled tywyll ar eu pennau

Cynhwysion

Tua 2 lwy fwrdd o datws stwnsh dros ben, wedi'i oeri
450g o siwgr eisin
250g o siocled tywyll
100g o gneuen coco wedi'i sychu

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Gwnewch yn siŵr bod eich tatws stwnsh yn llyfn, heb unrhyw lympiau, yna ychwanegu’r siwgr eisin yn raddol, gan ei gymysgu wrth fynd ymlaen.

  2. Parhewch i ychwanegu’r siwgr eisin tan fod eich cymysgedd tatws yn dod yn bast trwchus.

  3. Rholiwch y cymysgedd yn betryalau o faint unigol, a’i roi ar glawr gwrthsaim ac yna ei drosglwyddo i’r rhewgell a’i adael i setio am tuag awr.

  4. Ar gyfer y gorchudd, toddwch eich siocled mewn dysgl gwrth-wres dros badell o ddŵr sy’n mudferwi.

  5. Rhostiwch hanner y gneuen coco trwy daenu’r cwbl ar glawr pobi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am tua 3 munud neu tan ei fod yn dechrau troi’n euraidd ac yna ei drosglwyddo i ddysgl ac ychwanegu’r gneuen coco sydd heb ei thostio.

  6. Tynnwch eich macarŵns allan o’r rhewgell, yna eu rhoi nhw yn y siocled a’u rholio yn y gneuen coco, a’u rhoi yn ôl ar y papur gwrthsaim i sychu.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.