Skip page header and navigation

Llysiau garlleg ar dost

Llysiau garlleg ar dost

Gellir rhoi ail fywyd i'r rhan fwyaf o lysiau gan ddefnyddio’r rysáit wych hon, sy'n berffaith ar gyfer cinio neu swper ysgafn.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Bara wedi’i dostio’n grimp gyda chaws a thomatos garlleg wedi’u taenu arno

Cynhwysion

Tafelli o fara garlleg wedi'u rhewi
Defnyddiwch unrhyw fath o fara ffres neu wedi'i rewi
Tua 900g o bupur, courgette a phlanhigyn wy, wedi'u torri'n dafelli a thaflu’r hadau
175g o gaws caled neu mozzarella, wedi'i gratio neu ei dorri’n giwbiau
125g o domatos bach, wedi'u torri'n ddarnau bach bras
Gellir defnyddio unrhyw amrywiaeth o domatos
2-3 llwy fwrdd o finegr gwin coch
Dail basil wedi rhwygo
Halen a phupur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y gril ymlaen llaw a rhannu’r llysiau i gyd heblaw’r tomatos ar ddau dun rhostio ac yna ychwanegu blas gyda halen a phupur a’u rhoi o dan gril poeth, gan eu troi unwaith nes eu bod yn feddal ac yn frown euraidd.

  2. Cymysgwch y llysiau wedi’u grilio gyda’r tomatos, caws, basil a finegr mewn dysgl.

  3. Rhowch y tafelli o fara garlleg wedi’u rhewi dan y gril, a’u grilio ar y ddwy ochr nes eu bod yn frown euraidd a rhoi’r llysiau ar bob tafell o fara garlleg, wedyn eu rhoi dan y gril am ychydig funudau i’w hailgynhesu ac yna eu gweini ar unwaith.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Mae’n well ei weini’n ffres. Ail-gynheswch unwaith yn unig o dan gril poeth.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.