Skip page header and navigation

Jam mefus

Jam mefus

Gwnewch i'r tymor mefus bara trwy'r flwyddyn gyda'r jam hawdd hwn. Dyma ffordd dda o ddefnyddio mefus sydd heb aeddfedu digon neu fefus sur – dylech eu rhewi tan fod gennych chi ddigon i wneud swp o jam.
Gan Nicola Cronin
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
An spoon in an open jar of strawberry jam surrounded by fresh strawberries

Cynhwysion

2kg o fefus - mefus sydd heb aeddfedu digon sydd orau
Bydd eich ffrwythau'n para tair gwaith yn hirach os cânt eu storio yn yr oergell!
1.6kg o siwgr jam
Sudd 2 lemon

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Tynnwch y coesynnau a thorrwch y mefus.

  2. Rhowch y mefus mewn padell neu bot gyda thua ½ cwpan o ddŵr. Os yw’r aeron wedi’u rhewi, nid oes angen i chi ychwanegu unrhyw ddŵr.

  3. Mudferwch a’u coginio am tua 30 munud tan fod y ffrwyth yn feddal.

  4. Stwnsiwch gyda stwnsiwr i’r gwead dymunol. Mae’n well gan rai pobl jam gyda darnau o fefus, tra bod yn well gan eraill ansawdd fwy llyfn.

  5. Ychwanegwch siwgr a sudd lemwn, yna troi’r gwres i fyny a berwi’r jam.

  6. Profwch y jam ar ôl 10 munud a pharhau i brofi nes cyrraedd y set a ddymunir.



    AWGRYM: I brofi i weld a yw eich jam wedi setio, rhowch blât neu soser yn y rhewgell am 5 munud neu tan ei fod yn oer a rhoi ychydig o’ch jam poeth ar y plât oer ac yna ei roi yn ôl yn y rhewgell am ychydig funudau. Tynnwch y jam allan o’r rhewgell a’i gyffwrdd â blaen eich bysedd. Os yw wedi ffurfio croen sy’n crychu wrth i chi ei wthio gyda blaenau eich bysedd, yna mae’n barod. Os yw’n dal yn rhedeg heb unrhyw wrthwynebiad, daliwch ati i’w ferwi ac ailadrodd y prawf ymhen 5 munud.

  7. Rhowch y jam mewn jariau poeth, wedi’u di-heintio.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Hyd at 12 mis
Ble i’w storio
Storiwch mewn lle tywyll oer, fel cwpwrdd.
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.