Skip page header and navigation

Hash tatws a llysiau diwastraff

Hash tatws a llysiau diwastraff

Brecinio diwastraff blasus, sy’n defnyddio’r daten, pannas, brocoli, shibwns a pherlysiau yn gyfan (coesynnau, crwyn a’r cwbl). Neu gallwch eu cyfnewid am unrhyw lysiau dros ben sydd gennych yn y tŷ! Gellir gwneud y rysáit yn un figan a/neu heb glwten – gweler yr awgrymiadau isod.
Gan Cate Dixon and LADbible
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr+
crispy hash browns circling a dipping sauce

Cynhwysion

750g o datws blawdiog (e.e. King Edward, Maris Piper ac ati), wedi’u golchi
Gallwch ychwanegu unrhyw lysiau dros ben at eich patis hash i leihau gwastraff bwyd eich cartref.
2 pannas, wedi'u golchi
1 brocoli, blodigion wedi’u gwahanu a’r coesgyn wedi’i dorri’n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych yn yr oergell. Gellir defnyddio asbaragws, pys, sbigoglys, courgettes a phob math o ffa gwyrdd yn lle hynny.
30g o fenyn hallt
3 llwy fwrdd o olew olewydd pur, ynghyd â mwy ar gyfer diferu
½ llwy de o gwmin
4 shibwns, wedi'u sleisio'n fân
Tusw bach o bersli deilen fflat, y dail a’r coesynnau wedi’u torri’n fân
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u mathru’n fân
2 lwy fwrdd o flawd plaen, ac ychydig mwy ar gyfer ysgeintio
I wneud y rysáit yn un heb glwten, defnyddiwch flawd heb glwten.
4 wy buarth organig canolig (dewisol)
I wneud y rysáit yn un figan, defnyddiwch gaws figan yn lle wy a chyfnewid y menyn am 2 lwy fwrdd o olew olewydd pur ychwanegol.
1 llwy de o fflochiau tsili sych
1 lemwn, wedi'i dorri'n ddarnau

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 220°C/200°C ffan/nwy 7.

  2. Pliciwch y tatws a’r pannas ac yna eu torri’n ddarnau a rhoi’r darnau mewn padell o ddŵr oer hallt. Dewch ag ef i’r berw a’i ffrwtian am 15-20 munud tan fydd cyllell yn pasio trwy’r llysiau’n rhwydd. Ychwanegwch y blodigion brocoli i goginio am y 5 munud olaf, eu draenio a’u gadael i stemio’n sych am 2 funud cyn eu dychwelyd i’r sosban gyda’r menyn a’u stwnshio tan mae’r cyfan yn llyfn.

  3. Yn y cyfamser, mewn tun pobi, sychwch y crwyn tatws a phannas yn ofalus gyda thywel llestri glân yna ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew olewydd, y cwmin a mymryn o halen môr. Gwasgarwch y crwyn yn un haen a’u rhostio yn y ffwrn am 20–25 munud, gan eu troi ambell waith, tan maen nhw’n euraidd ac yn grimp, yna eu rhoi i un ochr i oeri.

  4. Gostyngwch dymheredd y ffwrn i 120C/100C ffan/nwy 1.

  5. Cynheswch 1 llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio dros wres canolig, yna ffrio’r coesgyn brocoli wedi’i dorri, y shibwns a choesynnau’r persli am 10 munud tan maen nhw’n feddal. Ychwanegwch y garlleg a’u ffrio am 2 funud arall ac yna ychwanegu’r cymysgedd tatws a phannas ynghyd â’r dail persli a’i gymysgu at ei gilydd ac ychwanegu blas gyda halen môr a phupur du ac unwaith y bydd wedi oeri digon i’w drin, defnyddiwch ddwylo gydag ychydig o flawd arnyn nhw i’w ffurfio yn 8 pati hash. Gosodwch ar blât a’u gadael i oeri yn yr oergell am 30 munud.

  6. Ysgeintiwch ddwy ochr y patis hash gyda’r blawd, gan ysgwyd unrhyw flawd dros ben oddi arnyn nhw.

  7. Cynheswch yr olew sy’n weddill mewn padell ffrio a gan weithio fesul swp, ffrio’r patis hash am 5–6 munud ar bob ochr tan maen nhw’n euraidd ac yn grimp. Trosglwyddwch nhw ar blât yn y ffwrn i’w cadw’n gynnes rhwng sypiau.

  8. Berwch sosban fawr o ddŵr hallt, troi’r gwres i lawr tan fod y dŵr yn ffrwtian a thorri’r wyau i’r dŵr yn ofalus, fesul un a’u gadael nhw i botsio am 4–5 munud tan mae’r gwyn wedi’i goginio ond y melynwy’n dal yn feddal. Tynnwch nhw’n ofalus o’r dŵr gyda llwy rychog, gan ddraenio unrhyw ddŵr.

  9. Pentyrrwch 2 o’r patis hash ar ben ei gilydd a’u gweini gydag wy wedi’i botsio a’r creision pannas a thatws. Ysgeintiwch olew olewydd drostynt, ynghyd â’r fflochiau tsili, ac ychwanegu blas gyda phupur du a’u gweini gyda lletem o lemon.

    Bydd y creision llysiau yn cadw mewn cynhwysydd aerglos ar dymheredd ystafell am hyd at 1 wythnos.

    Gallwch rewi unrhyw batis hash ychwanegol mewn cynhwysydd sy’n addas ar gyfer y rhewgell a’u dadmer a’u hail gynhesu tan eu bod yn chwilboeth cyn eu gweini.

     

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.