Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Cynheswch ychydig o olew olewydd mewn sgilet sy’n addas ar gyfer y ffwrn neu badell ar wres canolig.
Ychwanegwch y winwns a’u gadael i goginio am ychydig funudau, cyn ychwanegu’r garlleg a’r cig moch.
Ffriwch am ychydig funudau gan adael i ymylon y cig moch ddechrau troi’n grimp, cyn ychwanegu’r tatws. Codwch y gwres ychydig a’u coginio am ychydig funudau.
Ychwanegwch y llysiau wedi’u coginio, yr halen a phupur a’u coginio am ychydig funudau.
Ychwanegwch y caws wedi’i gratio a’i gymysgu drwy’r gymysgedd cyn ei dynnu oddi ar y gwres.
Gwnewch yn siŵr bod yr hash wedi’i wasgaru’n gyfartal ar draws gwaelod y sosban.
Craciwch yr wyau ar ben y ddysgl yn ofalus cyn eu trosglwyddo i ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (190°C / 170°C ffan) a’u coginio am 8 munud, neu tan fod y gwynnwy wedi setio.
Gweinwch ar unwaith!
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.