Skip page header and navigation

Gwledd o ffacbys a madarch mewn crochan araf

Gwledd o ffacbys a madarch mewn crochan araf

Rhowch y cynhwysion hyn at ei gilydd yn y bore a bydd stiw blasus cynnes yn aros amdanoch pan fyddwch chi'n cyrraedd adref. Os ydych chi'n brin o amser, gallwch anghofio’r cam cyntaf a rhoi'r holl gynhwysion gyda'i gilydd. Ceisiwch arbrofi trwy roi ffa coch neu domatos ffres i mewn hefyd.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Pot coginio du yn llawn stiw ffacbys a madarch

Cynhwysion

2 gan o ffacbys, wedi'u draenio
5 moronen, wedi'u torri
Dim moron, dim problem – defnyddiwch lysiau eraill sydd angen eu defnyddio e.e pannas
2 seleri, wedi'u torri
2 winwnsyn, wedi'u deisio
Edrychwch yn eich rhewgell am winwns sydd dros ben y gallech fod wedi'u torri a'u rhewi.
1 pecyn o fadarch siâp botwm, wedi'i sleisio
Er mwyn arbed amser yn y bore, torrwch a pharatoi’r llysiau'r noson gynt.
Llysiau neu ffa eraill sydd angen eu defnyddio o'r cwpwrdd neu'r oergell
1 can o domatos wedi'u torri
2 lwy fwrdd o biwrî tomato
3 shibwns wedi'u sleisio i'w wasgaru ar ben y gymysgedd
1 ciwb stoc llysiau
3 ewin o arlleg, wedi'i falu / torri
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy de o dyrmerig
1 llwy de o cwmin
1 llwy de o bowdr tsili neu paprica (dewisol)
Halen a phupur i flasu

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ac yna ffrio’r winwns, y garlleg a’r sbeisys yn ysgafn am ychydig funudau tan fod y winwns wedi meddalu.

  2. Cymysgwch eich ciwb stoc mewn 600ml o ddŵr cynnes tan ei fod wedi hydoddi.

  3. Ychwanegwch eich holl gynhwysion, gan gynnwys llysiau wedi’u torri a winwns wedi’u ffrio, i’r crochan araf ac arllwyso’r stoc a’r can o domatos wedi’u torri i mewn.

  4. Coginiwch yn uchel am bedair awr neu’n isel am chwech a’i weini gyda shibwns, iogwrt a bara crystiog.

  5. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.