Skip page header and navigation

Gnocchi figan syml

Gnocchi figan syml

Mae'r gnocchi hwn sy'n addas i figan yn syml iawn i'w wneud – ac yn garedig i’r boced hefyd. Defnyddiwch datws pob neu datws stwnsh dros ben sydd wedi sychu ychydig.
Gan Jane Hughes
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Gnocchi figan hufennog wedi’i weini ar blât gwyn gyda garnais gwyrdd

Cynhwysion

Tatws stwnsh dros ben (gorau po sychaf) neu gnawd dwy neu dair taten bob, wedi eu stwnshio heb laeth na menyn
Blawd gwyn plaen
Ychydig o halen a phupur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Gwnewch yn siŵr nad yw’r tatws stwnsh yn dalpiog ac ychwanegwch flas gyda halen a phupur. Rhowch y stwnsh mewn dysgl gymysgu fawr ac ychwanegu sawl llwy fwrdd o flawd.

  2. Defnyddiwch eich dwylo i gymysgu’r tatws a’r blawd gyda’i gilydd a dal ati i ychwanegu blawd nes bod y cymysgedd yn dod at ei gilydd fel toes. Trowch y toes ar fwrdd â blawd arno a’i dylino’n ysgafn, gan ychwanegu mwy o flawd yn ôl yr angen – fe welwch po fwyaf y gwasgwch y tatws, y mwyaf o leithder fydd yn ymddangos! Unwaith y bydd y toes yn ddigon sych i beidio â glynu wrth y bwrdd, torrwch ef yn bedwar dogn a rholiwch bob un i siâp ‘neidr’ hir.

  3. Defnyddiwch gyllell finiog i dorri’r neidr yn ddarnau byr a’u rhoi ar blât â blawd arno. Os ydyn nhw’n cyffwrdd â’i gilydd, maen nhw’n debygol o lynu at ei gilydd.

  4. Berwch sosban fawr o ddŵr i’r berw ac yna gollwng ychydig o ddarnau gnocchi i’r dŵr – dim gormod, neu efallai y byddant yn clystyru. Byddant yn suddo, ac yna’n codi i’r wyneb pan fyddant wedi’u coginio - dim ond munud neu ddau y mae hyn yn ei gymryd. Tynnwch nhw allan pan fyddan nhw’n arnofio. Os oes angen i chi eu cadw’n gynnes tra byddwch chi’n gorffen coginio’r holl gnocchi, beth am eu taflu mewn ychydig o olew i’w hatal rhag glynu at ei gilydd.

  5. Gweinwch gydag ychydig o saws tomato neu pesto figan, neu ffrio ewin neu ddau o arlleg wedi’i fathru mewn ychydig o olew olewydd da neu fargarîn figan ac addurno’r pryd gyda pherlysiau ffres wedi’u torri.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Mae'n well ei fwyta'n ffres ond gellir ei storio yn yr oergell am 2 ddiwrnod ar ôl ei goginio
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Mewn dŵr berwedig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.