Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu ei roi yn y microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Dylech socian y gamwn yn unol â chyfarwyddiadau’r cyflenwr.
Cynheswch y ffwrn i 170°C (325°F) neu farc nwy 3.
Draeniwch y gamwn a’i sychu, yna lapio’n rhydd mewn ffoil fel bod lle i’r aer gylchredeg cyn rhoi’r parsel mewn tun a’i goginio am 20 munud ar gyfer pob 450g.
Cymysgwch y mwstard a’r mêl gyda’i gilydd mewn dysgl fach. Tua 10 munud cyn diwedd ei amser coginio, tynnwch y gamwn o’r popty ac agor y ffoil a thynnu’r croen, os oes peth. Sgoriwch y braster, mewn patrwm diemwnt os mynnwch, yna rhoi’r mwstard a’r sglein mêl drosto.
Cynyddwch wres y ffwrn i 220°C (425°F) marc 7, a rhoi’r gamwn yn ôl yn y ffwrn am y 10 munud olaf, gan frasteru’r tun os yw’n edrych yn sych.
Unwaith y bydd wedi’i goginio, tynnwch y gamwn o’r ffwrn a’i lapio’n ôl yn ffoil a’i adael am 15-20 munud cyn ei gerfio a’i weini.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer ddiwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Dylech ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.