Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauYn gyntaf, gwnewch eich salsa gan dorri eich eirin gwlanog tun yn fân a’u hychwanegu i ddysgl gydag india-corn wedi’i ddraenio, 4 x shibwns wedi’i sleisio, halen, pupur ac 1 llwy de o fflochiau tsili.
Ychwanegwch sudd 1 leim ac ychydig o’r sudd eirin gwlanog a’i droi i gyfuno. Unwaith y byddwch yn hapus gyda’r blas, ychwanegwch lond llaw o goriander wedi’i dorri’n fân a’i roi i un ochr.
Cynheswch eich ffwrn i 180 (ffan 160) a leinio clawr pobi gyda phapur pobi.
Torrwch eich corn-bîff yn giwbiau bach a sleisio 2 x shibwns ychwanegol yn denau.
Ychwanegwch eich blawd plaen, y powdr pobi a phaprica i ddysgl gyda halen a phupur a’u cymysgu i’w cyfuno.
Mewn dysgl neu jwg ar wahân, curwch eich wyau a’ch llaeth gyda’i gilydd cyn ei ychwanegu at eich cynhwysion sych. Trowch neu guro’r gymysgedd tan fod gennych gytew llyfn.
Ychwanegwch eich corn-bîff wedi’i dorri a’ch shibwns, a’u troi i gyfuno.
Ychwanegwch swm da o olew mewn padell ffrio ac unwaith bydd yn boeth, ychwanegu llond llwy fawr o’ch cytew a cheisio cadw’r siâp cylch cymaint â phosibl.
Ffriwch eich ffriter am 3-4 munud cyn ei droi drosodd – mae angen iddyn nhw fod yn frown euraidd ar bob ochr.
Ychwanegwch bob ffriter wedi’i goginio ar y clawr pobi wedi’i leinio â phapur pobi a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn i gadw’n gynnes wrth i chi goginio gweddill y ffriterau
Gweinwch y ffriterau ochr yn ochr â’r salsa a’u mwynhau!
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.