Skip page header and navigation

Ffalaffel bach gyda dip iogwrt a chiwcymbr

Ffalaffel bach gyda dip iogwrt a chiwcymbr

Os oes gennych chi lysieuwyr yn dod i'ch parti, byddan nhw wrth eu bodd â'r rhain; am fyrbryd mwy sylweddol gellir eu gweini hefyd mewn poced pita cynnes gyda saws tsili a salad.

Gweinwch y ffalaffel bach gyda dip iogwrt Tzatziki a brynwyd neu gwnewch un eich hun.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 16
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Darnau o ffalaffel euraidd gyda phowlen o dip ciwcymbr ac iogwrt llyfn

Cynhwysion

Ffalaffel

2 x 400g o ffacbys tun
2 winwnsyn bach, wedi'u torri'n fân neu wedi'u gratio'n drwchus
Gall winwns sydd dros ben gael eu deisio a'u rhewi mewn cynhwysydd aerglos
3 ewin garlleg, wedi'i fathru
2 llwy de o cwmin
2 llwy de o goriander
3 llwy fwrdd o berlysiau wedi'u torri fel coriander neu bersli (dewisol)
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau eraill wedi'u rhewi, sych neu ffres
4-6 llwy fwrdd o flawd
Halen a phupur du

Dip iogwrt a chiwcymbr

Olew ar gyfer ffrio
150ml o iogwrt naturiol
2 lwy fwrdd o mayonnaise
Sudd ½ leim
½ ciwcymbr, wedi'i gratio'n drwchus, wedi’i ddraenio ar bapur cegin
1 ewin garlleg, wedi'i fathru
2 lwy fwrdd o fintys wedi'i dorri
Pinsiad o halen

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y ffacbys mewn dysgl gyda’r winwnsyn, garlleg, cwmin, coriander halen a phupur a defnyddiwch pestl a morter i stwnshio’r ffacbys yn ysgafn tan fod y gymysgedd yn dechrau glynu at ei gilydd. Ychwanegwch y coriander wedi’i dorri, os ydych chi’n ei ddefnyddio.

  2. Cymerwch ddognau maint cnau Ffrengig a’u siapio’n gylchoedd bach, gwastad 1cm o drwch. Rholiwch y ffalaffel yn y blawd fel ei fod wedi’i orchuddio’n dda a’i oeri am 15-30 munud. Cynheswch tua 2.3cm o olew mewn padell ffrio, a phan yn boeth ychwanegu ychydig o ffalaffels a’u coginio dros wres canolig am tua 5-6 munud, gan droi’n aml. Draeniwch ar bapur cegin.

  3. Gweinwch gyda dip fel iogwrt a chiwcymbr (gweler isod) ynghyd â choesynnau o giwcymbr a phupur coch.

  4. I wneud y dip iogwrt a chiwcymbr, rhowch yr iogwrt, mayonnaise a sudd leim mewn dysgl a’u curo gyda fforc.

  5. Ychwanegwch y ciwcymbr wedi’i ddraenio, y garlleg a’r mintys wedi’u torri a’u cymysgu’n dda ac ychwanegu pinsiad o halen os oes angen.

  6. Gorchuddiwch a’i adael yn yr oergell am o leiaf 1 awr cyn ei weini i ganiatáu i’r blasau ddwysáu.

  7. I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 2 yna ei oeri a’i bacio mewn cynhwysydd aerglos am hyd at 6 mis.

    I’w ddefnyddio: Rhowch y ffalaffel ar glawr pobi a’i gynhesu yn y ffwrn ar 180°C (350°F) marc 4 am tua 10 munud neu tan ei fod yn chwilboeth.

     

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell 2 ddiwrnod, rhewgell 6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.