Skip page header and navigation

Fajitas porc crimp

Fajitas porc crimp

Mae'r rysáit hon yn wych i grŵp o bobl fynd ati i adeiladu eu fajitas eu hunain.
Gan Dingley Dell Pork
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Darnau o borc crimp mewn padell gyda llysiau wedi’u sleisio, yn cael eu gweini gyda phlât o fara tortila

Cynhwysion

Gwerth dau fwg o borc wedi'i goginio, wedi'i dorri'n fân (naill ai ei dynnu gyda'ch bysedd neu gyda dwy fforc)
Mae'r rysáit hwn yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a dadmer cig yn drylwyr cyn ei goginio.

Ar gyfer y marinâd

2 lwy fwrdd o fflochiau tsili
Os ydych chi'n ei wneud ar gyfer plant neu os nad ydych chi'n hoffi pethau'n rhy sbeislyd, hanerwch faint o fflochiau tsili
2 lwy fwrdd o gwmin
2 lwy fwrdd o oregano
1 ewin garlleg, wedi'i fathru
1 llwy de o halen

Ar gyfer y salsa

Llond llaw fawr o domatos bach
Dyrnaid bach o fasil ffres
¼ tsili ffres wedi'i dorri'n fân (gellir ei anwybyddu os ydych yn dewis peidio â’i ddefnyddio)
Pinsiad o halen
Ychydig ddiferion o sudd lemon
2 lwy fwrdd o olew olewydd pur ychwanegol

Ar gyfer y llenwad

1 pupur coch, wedi'i dorri'n fân
1 pupur melyn, wedi'i dorri'n fân
Caws Cheddar aeddfed, wedi'i gratio Hufen sur
Hufen sur
Coriander ffres
8 darn o fara tortila

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cymysgwch y marinâd gyda’i gilydd a throi’r porc wedi’i rwygo ynddo i’w orchuddio a’i roi i’r naill ochr.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Ar gyfer y salsa, chwarterwch y tomatos a thynnu’r hadau. Torrwch nhw’n fân a’u rhoi mewn dysgl a haenu’r dail basil un ar ben y llall, eu rholio a’u sleisio fel bod gennych rubanau basil cul, ychwanegwch y rhain a gweddill y cynhwysion i’r ddysgl a’u troi ac yna ychwanegu blas.

  3. Cynheswch badell ffrio tan ei fod yn boeth a thaflu ychydig o olew i mewn, yna ffrio’r porc a dal ati i daflu’r cynhwysion o amgylch y badell tan ei fod ychydig yn grimp ac yn boeth. Rydych chi nawr yn barod i weini swper!

  4. Gallwch naill stemio’r bara tortila neu eu rhoi yn y microdon. Dilynwch gyfarwyddiadau’r pecyn. Rhowch bopeth at ei gilydd ar y bara tortila, ei lapio a cheisio ei fwyta heb wneud llanast!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Mae'n well ei fwyta'n ffres, ond gellir ei storio yn yr oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.