Skip page header and navigation

Cyri llysiau Thai

Cyri llysiau Thai

Nid oes angen i chi wneud y past cyri o'r dechrau – gallwch ddefnyddio past cyri Thai gwyrdd neu goch parod. Mae past parod yn aml yn cynnwys pysgod felly nid yw'n addas ar gyfer llysieuwyr. Fodd bynnag, mae'r rysáit hon yn addas ar gyfer llysieuwyr a figan fel ei gilydd.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Poweln o gyri Thai llyseiol ar fwrdd wedi'I sod gyda chyllell a ffyrc

Cynhwysion

Ar gyfer y past cyri Thai:
Darn 2.5cm o wraidd sinsir ffres, wedi'i blicio a'i dorri
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u mathru
Darn 2.5cm o wellt lemwn, haenau allanol wedi'u tynnu a'u torri'n fân
1-2 tsili bach (poeth), heb yr hadau ac wedi’u torri'n fân
Ar gyfer y reis Thai persawrus:
200g o reis jasmin neu reis persawrus
25g o fenyn
Halen y môr
Ar gyfer y cyri llysiau Thai:
450g o lysiau cymysg dros ben fel courgette, darnau o flodfresych, pupurau, tatws bach, madarch, ffa gwyrdd, mange tout, egin ffa, moron a sbigoglys
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi!
Can 400g o laeth cnau coco
Sudd lemwn neu lemwn i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. I wneud y past cyri Thai, cymysgwch y sinsir, y garlleg, y gwellt lemwn a’r tsili mewn prosesydd bwyd tan iddo ddod yn bast garw.

  2. Ar gyfer y cyri llysiau Thai: Cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn yn ysgafn am 2 funud, yna ychwanegu’r past cyri Thai a’u coginio am 2 funud arall; ychwanegwch y llysiau a’r llaeth cnau coco a’u mudferwi am 15-20 munud (gadewch y llysiau sydd ond yn cymryd ychydig o amser i goginio ac ychwanegu’r rhain ar y diwedd).

  3. Tra bod y cyri yn mudferwi, coginiwch y reis persawrus Thai: Rhowch y reis mewn padell fawr sydd â chaead tynn ac ychwanegu 375ml o ddŵr oer, y menyn a’r halen tan ei fod yn berwi, a throi’r gwres i lawr i fudferwi; coginiwch dros wres isel, wedi’i orchuddio, am 20 munud neu tan fod y reis wedi amsugno’r holl hylif (ychwanegwch ychydig mwy o ddŵr os nad yw’r reis yn frau a bod yr holl hylif wedi’i amsugno).

  4. I weini, rhowch sudd lemwn neu leim dros y cyri a gweinwch y cyfan gyda reis Thai persawrus.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 24 awr
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.