Skip page header and navigation

Cawl pys a mintys

Cawl pys a mintys

Lluniwyd y rysáit cawl clasurol gan Chefs @ School i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin. A fyddech chi'n rhoi cynnig arni gyda'ch rhai bach?
Gan Chefs @ School
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Powlen hufennog lliw gwyrdd golau yn llawn cawl pys a mintys gyda mintys ffres ar ei phen

Cynhwysion

750ml o ddŵr berwedig
1 ciwb stoc llysiau â llai o halen
2 x llwy 15ml o fintys ffres
2 x llwy 15ml o olew hadau rêp
1 winwnsyn bach (wedi'i dorri)
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 seleri (wedi'i dorri)
500g o bys wedi'u rhewi
Pupur du
Hufen ffres neu iogwrt naturiol (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Mesurwch 750ml o ddŵr berwedig i mewn i jwg mesur a thorri’r ciwb stoc i mewn a’i droi gyda llwy bren tan ei fod wedi toddi.

  2. Golchwch y mintys ffres a’i roi mewn cwpan ac yna torri’r mintys gyda siswrn yn y cwpan a’i roi i un ochr ar gyfer yn nes ymlaen.

  3. Cynheswch yr olew hadau rêp yn y badell dros wres ysgafn ac ychwanegu’r winwnsyn a’r seleri cyn ei goginio gyda’r caead ymlaen a’i droi weithiau i atal y cynhwysion rhag glynu at waelod y sosban.

  4. Rhowch y pys yn y sosban, eu troi i gymysgu gyda’r winwns a’r seleri ac ychwanegu’r stoc.

  5. Coginiwch tan ei fod yn berwi ac yna leihau’r gwres, ei droi a’i fudferwi am 10 munud.

  6. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu’r mintys.

  7. Unwaith y bydd y cawl wedi oeri ychydig, cymysgwch â chymysgydd tan ei fod yn llyfn.

  8. Ychwanegwch bupur du a crème fraîche/iogwrt i ychwanegu blas os ydych yn ei ddefnyddio.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.