Skip page header and navigation

Cawl pwmpen sbeislyd

Cawl pwmpen sbeislyd

Mae'n felys ac yn sbeislyd, mae'r cawl pwmpen hwn yn ffefryn yn yr hydref ac yn berffaith os ydych chi'n gwneud cawl am y tro cyntaf, yn ogystal ag ar gyfer cogyddion profiadol. Mae'n gweithio'n dda iawn os ydych chi'n rhostio'r bwmpen a'r tatws melys yn gyntaf. Blasus!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 1
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
a vibrant creamy orange soup topped with pumpkin seeds

Cynhwysion

½ pwmpen ganolig neu ½ gwrd cnau menyn
Gellir ei wneud gyda llysiau rhost eraill e.e. pannas, moron
1 taten felys
½ pupur coch
1½ cwpan (375 ml) o ddŵr
1 cwpan (250 ml) o laeth braster llawn neu laeth amgen e.e. soia, almon
1 tsili coch (dewisol)
Pinsiadau o halen a phupur i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 190ºC.

  2. Tynnwch y cnawd pwmpen gyda llwy, a phlicio’r daten felys a thorri’r bwmpen a’r daten felys yn giwbiau 1 modfedd.

    Stoc blasus o grwyn a phennau llysiau: Rhowch nhw mewn cynhwysydd wedi’i selio a’u rhewi. I wneud y stoc, rhowch y darnau llysiau i fudferwi mewn dŵr am 20 munud pan fo’i angen arnoch. Gwych i’w roi mewn cawl, lobsgóws a risoto.

  3. Sleisiwch y pupur coch a rhoi’r holl lysiau ar glawr rhostio, gyda diferyn o olew. Rhowch y llysiau yn y ffwrn i rostio am 30-40 munud, tan eu bod yn feddal.

  4. Gadewch i’r holl lysiau oeri ychydig. Unwaith y bydd yn ddigon oer i’w drin, ychwanegwch y bwmpen, taten felys a phupurau i gymysgydd gyda’r dŵr, y llaeth a’r tsili wedi’u deisio, a’u cymysgu tan eu bod yn llyfn.

  5. Arllwyswch y cynnwys i mewn i sosban a’i gynhesu tan ei fod yn chwilboeth, gan ychwanegu mwy o ddŵr os ydych yn hoffi cawl ychydig yn deneuach.

  6. Ychwanegwch flas gyda halen a phupur.

  7. Awgrym gan y cogydd: I roi blas melysach i’r cawl, rhostiwch y bwmpen a’r daten felys tan eu bod yn dywyll ac wedi’u carameleiddio. Mae’n bwysig gadael i’r llysiau oeri cyn eu rhoi yn y cymysgydd gan y gallai pwysau’r stêm greu llanast yn y gegin!

  8. Defnydd: Defnyddiwch lysiau heb eu coginio a allai fod gennych dros ben o ddysgl arall.

  9. Amrywiadau: I wneud hwn yn ddysgl fwy cytbwys, gallwch ei weini gyda briwsion crasu garlleg neu ychydig o dafelli o fara a menyn. Gallwch hefyd amrywio’r cynhwysion a drwy ddefnyddio gwrd cnau menyn yn lle, neu fel ychwanegiad at y bwmpen!

  10. Blas ychwanegol: Gall ychwanegu eich cymysgedd eich hun o berlysiau a sbeisys wella’r pryd hwn yn wirioneddol, fel coriander, cwmin, oregano neu hadau ffenigl.

  11. Opsiynau figan: Er mwyn addasu’r pryd hwn ar gyfer y rhai sy’n figan, defnyddiwch stoc llysiau, llaeth amgen neu laeth cnau coco yn lle’r llaeth, a bydd pob un ohonynt yn creu blasau gwahanol.

  12. Cyngor ar alergeddau: Mae’r pryd amlbwrpas hwn yn hawdd ei addasu i osgoi alergenau a bod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddietau.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.