Skip page header and navigation

Cawl Minestrone

Cawl Minestrone

Lluniwyd y rysáit cawl hon ar gyfer defnyddio bwyd dros ben gan ein partner, Chefs @ School, i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin.
Gan Chefs @ School
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Powlen liwgar drawiadol o gawl minestrone yn cynnwys amrywiaeth o lysiau

Cynhwysion

1 winwnsyn canolig, wedi’i dorri’n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 cenhinen ganolig, wedi'i dorri, ei olchi a'i dorri'n fân
2 goesyn seleri, wedi'u tocio a'u torri'n fân
2 moronen ganolig, wedi'u torri
Nid oes angen eu plicio, dim ond eu golchi’n dda!
400g o domatos wedi'u torri
Ychwanegwch unrhyw domatos ffres sydd angen eu defnyddio.
1 ewin garlleg, wedi'i dorri'n fân
30g o bys wedi'u rhewi neu ffa fava wedi'u plicio
Mae mathau wedi'u rhewi neu dun yn gweithio'n berffaith.
30g o basta sych, siapiau bach
750ml o ddŵr gydag 1 ciwb stoc sydd â llai o halen
3 llwy fwrdd o olew llysiau
2 lwy de o oregano ffres, wedi'i dorri'n fân neu 1 llwy de o oregano sych
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal.
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
Caws Parma wedi'i gratio neu gaws caled arall i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Mesurwch 750ml o ddŵr berwedig i’r jwg mesur a thorri’r ciwb stoc yn fân a’i droi gyda llwy bren tan ei fod wedi toddi.

  2. Cynheswch yr olew yn y sosban dros wres canolig, yna ychwanegu’r winwnsyn wedi’i dorri, y genhinen, seleri a’r moron, gan droi’n dda, a’u coginio am 5 munud i adael i’r llysiau feddalu ond nid i frownio.

  3. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri a’r garlleg i mewn.

  4. Arllwyswch y stoc llysiau i mewn, yna ychwanegu’r perlysiau a chymysgu’r past tomato i mewn tan ei fod yn berwi.

  5. Ychwanegwch y pys wedi’u rhewi, yna’r pasta, a’i ferwi (swigen fach) am 10-15 munud.

  6. Tra bod y cawl yn coginio, gan ddefnyddio ochr fân yr offer gratio, gratiwch eich Caws Parma i’w ddefnyddio fel garnais.

  7. Profwch y cawl i sicrhau bod y pasta wedi’i goginio ac ychwanegwch fwy o stoc os yw’n rhy drwchus.

  8. Rhowch y cawl mewn dysglau cawl a gwasgaru’r caws wedi’i gratio drosto.

  9. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.