Skip page header and navigation

Cawl corbys heb wario gormod

Cawl corbys heb wario gormod

Mae'r cawl corbys clasurol hwn yn wledd i lysieuwyr yn ogystal â’r rhai sy’n bwyta cig, a gellir ei wella ymhellach gyda llawer o wahanol lysiau.

Yn well byth, mae ond yn costio 20 ceiniog y rhan – ffracsiwn o'r hyn y byddech chi'n ei dalu am yr hyn sy'n cyfateb i gawl crand o archfarchnad. Mae'r cawl hefyd yn addas ar gyfer pobl figan, cyn belled nad yw'r stoc a ddefnyddir yn cynnwys unrhyw gynhyrchion anifeiliaid.

Maetholion fesul rhan: Calorïau (kJ) 578; Calorïau (kcal) 137; Protein 8.9; Braster 1.2; o fraster dirlawn 0.1; Carbohydrad 21.0; sy’n siwgr 3.0; Ffibr 3.0; Sodiwm 1.5
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Dwylo mewn menig, un yn dal llwy a’r llall yn dal dysgl o gawl corbys

Cynhwysion

200g o gorbys coch
1 foronen
Nid oes angen ei phlicio, dim ond ei golchi’n dda!
1 winwnsyn
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1¼ litr o stoc llysiau
Sudd hanner lemon
Halen, pupur, powdr cwmin a phowdr tsili, i ychwanegu blas
I gael blas ychwanegol, beth am roi shibwns neu gennin syfi wedi'u torri'n fân fel garnais

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Pliciwch y winwnsyn a’r foronen a’u torri’n fân a’u rhoi mewn sosban fawr gyda’r stoc a’r corbys. Mudferwch, wedi’i orchuddio, am 25 munud tan fod y corbys yn chwalu a gadael iddo oeri a’i droi’n hylif.

  2. Ail-gynheswch i weini a gallwch ychwanegu at y blas gyda sudd lemwn, halen, pupur, cwmin a tsili.

  3. Awgrym ar gyfer y rhewgell: Mae’n werth gwneud meintiau dwbl a rhewi’r cawl hwn mewn rhannau. Peidiwch ag anghofio defnyddio lemwn, mae’n gwneud byd o wahaniaeth.

  4. Amrywiadau: Gellir torri llysiau eraill a’u coginio gyda’r corbys, ond peidiwch â chynnwys tatws gan y byddant yn tueddu i wneud y cymysgedd yn ludiog.

  5. Cofiwch rewi unrhyw rannau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn yn lle ei daflu yn y bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dadrewi yn yr oergell. Gallwch ei aildwymo yn eich microdon neu ar yr hob.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.