Skip page header and navigation

Cacen Nadolig funud olaf

Cacen Nadolig funud olaf

Os yw eich bagiau te yn agosáu at y dyddiad y dylid eu defnyddio erbyn a'ch bod yn pendroni beth i'w wneud, beth am eu hychwanegu at gacen Nadolig funud olaf! Mae'r rysáit hon hefyd yn defnyddio ffrwythau sych a chnau sydd gennych yng nghefn y cwpwrdd.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Teisen Nadolig gydag eisin ac addurniadau gyda sleisen ar goll, wedi’i hamgylchynu gan addurniadau

Cynhwysion

500g o ffrwythau sych cymysg fel syltanas, rhesins, cyrens
100g o fricyll sy’n barod i'w bwyta, wedi'u torri
100g o ddatys, wedi'u torri
50g llugaeron sych
150g o geirios , wedi'u haneru
225ml o de du oer, wedi'i wneud o 2 fag te
100ml wisgi neu frandi
75ml o sudd oren
200g o fenyn, ychydig yn feddal
200g o siwgr crai
250g o flawd plaen
1kg o eisin ffondant wedi'i rolio'n barod
450g o farsipán
75g o gnau wedi'u torri
5 wy, wedi'u curo'n ysgafn
2 lwy fwrdd o driog du
1 a ½ llwy de o sbeis cymysg
4 llwy fwrdd o jam bricyll
1 oren, croen yn unig
1 llwy de o bowdr pobi
Siwgr eisin Masnach Deg wedi'i hidlo

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Mewn padell fawr cymysgwch y ffrwythau sych, bricyll, datys, llugaeron a cheirios. Ychwanegwch y te wedi’i oeri, y wisgi neu frandi, y sudd oren, croen a’r triog a’i ferwi, gan ei droi. Mudferwch yn ysgafn am 10 munud ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a gadael i’r gymysgedd i oeri a’i drosglwyddo i ddysgl a’i oeri dros nos neu am gymaint  ag y gallwch.

  2. Cynheswch y ffwrn i 140ºC / 275ºF / Marc Nwy 2. Irwch dun cacen grwn 20cm yn ysgafn a’i leinio â phapur pobi.

  3. Rhowch holl gynhwysion y gacen sydd dros ben, ac eithrio’r cnau, mewn dysgl gymysgu fawr. Cymysgwch yn drylwyr, ac yna plygu’r ffrwythau a’r cnau wedi’u socian â the i mewn.

  4. Rhowch y cymysgedd yn y tun parod a lefelu’r top, gan wneud ychydig o bant tuag at y canol. Lapiwch ochrau’r gacen mewn trwch dwbl o bapur brown ac yna gwirio’r gacen ar ôl 3 awr, a’i gorchuddio â phapur pobi os yw’r wyneb yn mynd yn rhy frown. Pobwch am 30 munud arall -1 awr, neu tan fod sgiwer metel wedi’i roi yn y canol yn dod allan yn lân.

  5. Oerwch y gacen yn y tun am 15 munud yna ei thynnu allan a gadael iddi oeri’n llwyr ar weiren oeri.

  6. Pan yn barod i addurno’r gacen, rhowch siwgr eisin ar arwyneb gwaith mawr a rholio’r marsipán i siâp cylch ychydig yn fwy na’r gacen. Cynheswch y jam bricyll mewn padell fach a’i frwsio dros y gacen. Rhowch y marsipán dros y gacen – a’i rwbio â’ch dwylo i greu arwyneb llyfn gwastad. Os bydd amser, gorchuddiwch y gacen gyda lliain sychu llestri glân ac yna ei gadael mewn lle oer am o leiaf un diwrnod.

  7. Rholiwch 150g o’r eisin ffondant ar arwyneb gwastad gydag ychydig o siwgr eisin a defnyddiwch eich hoff dorwyr cwci Nadolig i dorri rhai siapiau Nadoligaidd e.e. plu eira, sêr neu ddail celyn ac ati a’u trosglwyddo ar glawr pobi wedi’i leinio â phapur pobi a’i adael i setio, heb ei orchuddio, mewn lle oer.

  8. Rhowch y gacen ar fwrdd cacennau a brwsio’r gacen wedi’i gorchuddio â marsipán gydag ychydig o ddŵr. Rholiwch yr eisin sy’n weddill i gylch 33cm. Codwch y gacen a llyfnhau’r eisin i lawr yr ochrau a thorri’r eisin dros ben o amgylch gwaelod y gacen ac yn rhoi siwgr eisin ar gledr eich llaw gan eu rhwbio’n ysgafn dros yr eisin i gael gwared ag unrhyw fannau anwastad.

  9. Defnyddiwch y siapiau Nadoligaidd a baratowyd gennych yn gynharach i addurno’r gacen a’i gorffen gyda rhuban.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
5-7 diwrnod
Ble i’w storio
Lle oer, sych
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.