Skip page header and navigation

Brownis siocled, oren a mins pei

Brownis siocled, oren a mins pei

Gormod o fins peis? Bydd y brownis blasus hyn yn rhoi bywyd arall iddynt.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 12
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Ciwbiau o frownis siocled meddal

Cynhwysion

70g o siocled llaeth, wedi'i dorri'n fras
70g o siocled tywyll, wedi'i dorri'n fras
120g o fenyn heb halen
100g o flawd plaen
5 wy
½ llwy de o rinflas fanila
255g o siwgr brown meddal
tua 6 mins pei dros ben
Croen a sudd ½ clementin, satswma neu danjerîn

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 190°C/170°C ffan.

  2. Toddwch hanner y siocled llaeth a’r siocled tywyll gyda’r menyn mewn dysgl gwrth-wres dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi.

  3. Mewn dysgl ar wahân, curwch yr wyau a’r fanila gyda’i gilydd, yna ychwanegu’r siwgr.

  4. Ychwanegwch y siocled a’r menyn wedi’i doddi i’r cymysgedd wy, yna ychwanegu’r blawd a’i blygu’n ysgafn nes ei fod wedi’i gyfuno.

  5. Torrwch eich mins peis yn fras, gan gadw ychydig o ddarnau ar gyfer addurno. Ychwanegwch y darnau at y cymysgedd brownis, ynghyd â chroen a sudd y clementin, a gweddill y siocled.

  6. Arllwyswch y cymysgedd brownis i mewn i clawr pobi (tua 30cm x 20cm) a rhoi gweddill y darnau mins pei ar ei ben.

  7. Pobwch am 25 munud neu tan fod y canol wedi setio.

  8. Oerwch yn llwyr yn y clawr pobi cyn ei droi allan a’i dorri’n sgwariau.

  9. Rhowch fymryn o siwgr eisin ar eu pen i roi ychydig o naws Nadoligaidd ychwanegol!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Lle oer, sych am sawl diwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Lle oer, sych neu rewgell. Dylid eu sleisio a’u lapio os ydych am eu rhewi ac yna eu dadmer yn yr oergell.
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.