Skip page header and navigation

Cacen Siocled Bundt

Cacen Siocled Bundt

Mae’r deisen siocled foethus, flasus hon yn berffaith ar gyfer defnyddio darnau siocled sydd dros ben – yn ddelfrydol ar gyfer danteithion ar ôl y Nadolig!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Teisen Bundt gyda saws siocled yn diferu i lawr ei hochrau

Cynhwysion

8 owns o siwgr mân
8 owns o fenyn
8 owns o flawd codi
4 wy
Sblash o laeth
1 llwy de o rinflas fanila
4 llwy fwrdd o bowdr coco
1 llwy de o bowdr pobi
100g o siocled gwyn, wedi'i doddi
Unrhyw ddarnau siocled sydd ar ôl (Creme Egg, darnau o siocled gwyn, Maltesers, Lindt Lindor, unrhyw beth!)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C ac iro y tu mewn cyfan i’ch tun Bundt (a elwir weithiau’n dun teisennau cylch), at yr ymylon.

  2. Cymysgwch y siwgr a’r menyn gyda’i gilydd mewn dysgl gymysgu fawr.

  3. Ychwanegwch tua ¼ y blawd (trwy ridyll) a’i gymysgu, cyn ychwanegu un wy. Ailadroddwch gan ychwanegu’r blawd a’r wyau bob yn ail tan fod gennych gytew trwchus a hufennog.

  4. Ychwanegwch y powdr pobi, y fanila, a sblash bach o laeth i wneud y cymysgedd yn llaith.

  5. Ychwanegwch y powdr coco a nawr dylai’r cymysgedd fod yn dywyll a chyfoethog.

  6. Arllwyswch ½ y cymysgedd i’r tun Bundt. Ychwanegwch eich darnau siocled yn y canol (pellter cyfartal rhwng ymyl a chanol y tun), gan fynd yr holl ffordd o gwmpas. Dylai hyn greu cylch o siocled yn eich cymysgedd.

  7. Ychwanegwch weddill y gymysgedd ar ben eich siocled fel ei fod yn cael ei gladdu yn y canol.

  8. Rhowch y tun yn y ffwrn am 25 munud, gan wirio gyda sgiwer a yw’r cymysgedd wedi’i bobi drwodd. Os nad yw wedi pobi ar ôl 25 munud, rhowch y gacen yn ôl yn y popty a gwirio ar ôl 5 munud – ailadroddwch tan fod y gacen wedi’i choginio’n drylwyr ac yna ei gadael i oeri.

  9. Yn nes ymlaen, tynnwch y gacen o’r tun a’i rhoi gyda’r gwaelod i lawr ar weiren oeri. Gadewch nes bod y gacen gyfan wedi oeri.

  10. Toddwch y siocled gwyn trwy ei roi mewn talpiau mewn dysgl wydr, a’i gynhesu dros sosban o ddŵr berwedig. Cyn gynted ag y bydd y siocled yn llyfn, tynnwch y siocled oddi ar y gwres. Gan ddefnyddio llwy (neu fag peipio gyda ffroenell gul), arllwyswch y siocled wedi toddi dros y gacen ym mha bynnag batrwm y dymunwch. Os yw eich tun Bundt wedi creu llinellau diffiniedig o amgylch top y gacen, edrychwch i weld a allwch chi ddefnyddio’r rhain yn eich addurniadau. Gadewch y deisen i orffwys fel bod y siocled yn setio.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Lle oer, sych am sawl diwrnod, rhewgell 3 mis.
Ble i’w storio
Lle oer, sych neu rewgell. Dylid ei sleisio a’i lapio ydych am ei rhewi a chofiwch ei dadmer yn yr oergell.
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.