Skip page header and navigation

Babka tatws

Babka tatws

Pryd gwych i wneud y mwyaf o unrhyw datws sbâr sy'n eich cypyrddau. Yn draddodiadol byddai babka tatws yn cael ei fwyta fel pryd ar yr ochr ond byddai'n hawdd ei ddefnyddio fel prif gwrs llysieuol blasus.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Dysgl fach yn cynnwys potyn o babka tatws hufennog blasus

Cynhwysion

10 taten canolig eu maint
400g o fadarch
150g o gaws Cheddar
5 llwy fwrdd o hufen sur
1 llwy fwrdd o flawd
30g o fenyn, wedi'i feddalu
3 winwnsyn
2 lwy fwrdd o olew llysiau
Halen a phupur i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Torrwch y winwns a’u ffrio yn yr olew llysiau ac yna rhwbio’r madarch yn lân, eu torri a’u hychwanegu i’r badell. Ychwanegwch flas gyda halen a phupur.

  2. Gratiwch y tatws ac ychwanegu blas gyda halen a phupur ac yna brwsio tun pobi mawr gyda menyn a rhoi hanner y tatws wedi’u gratio yno.

  3. Gratiwch y caws ac yna rhoi’r madarch ar y tatws, eu gorchuddio â 1-2 lwy fwrdd o hufen sur a thaenu hanner y caws wedi’i gratio arnynt.

  4. Rhowch ail hanner y tatws dros y caws, eu gorchuddio gyda’r hufen sur sy’n weddill a gwasgaru ail hanner y caws arnynt. Cynheswch y ffwrn i 180°C.

  5. Pobwch yn y ffwrn tan ei fod wedi coginio drwyddo ac yn euraidd ar ei ben.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.