Skip page header and navigation

Mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd, ac yn eu sgil, cyfleoedd di-rif i gael picnic! Mae syniadau’r mis yma ar gyfer prydau bwyd yn ymwneud â manteisio i’r eithaf ar gynhwysion hafaidd i’n cadw ni’n oer braf, a mwynhau blas cynnyrch lleol pan mae ar ei orau, yn syth o’r caeau. Mae’n llawer gwell i’n planed na dibynnu ar ffrwythau a llysiau sydd wedi cael eu mewnforio neu eu hedfan yma o bedwar ban byd! Defnyddiwch ein hawgrymiadau blasus i roi trefn ar eich cynlluniau prydau bwyd ar gyfer mis Awst gan ddefnyddio cynhwysion ffres.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Awst

Yn ôl canllaw hynod ddefnyddiol y Vegetarian Society, dyma rai o’r ffrwythau a llysiau y gallwn edrych ymlaen at eu mwynhau ym mis Awst: 

Planhigyn wy, Betys, Mwyar Duon, Cyrens Duon, Ffa Llydain, Brocoli, Moron, Blodfresych, Ceirios, Sicori, Tsilis, Courgettes, Ciwcymbr, Eirin Damson, Ffenigl, Ffa Ffrengig, Garlleg, Eirin Gwyrdd, Colrabi, Cennin, Letys, Mwyar Logan, Mange Tout, Maro, Madarch, Pannas, Pys, Pupurau, Tatws, Eirin, Pwmpen, Radis, Mafon, Cyrens Cochion, Riwbob, Berwr, Ffa Dringo, Cyrn Carw’r Môr, Suran, Bresych Deiliog, Shibwns, Mefus, Pwmpen yr Haf, India-corn, Bresych Hisbi, Betys Arian, Tomatos, Berwr y Dŵr, Bresych Gwyn

Dyma rannu syniadau di-ri ar gyfer cynnwys rhai o’r cynhwysion ffres blasus hyn yn eich coginio: 

Letys 

Wrth i’r cynhaeaf letys fynd rhagddo, a ninnau’n brysur yn mwynhau barbeciws yr haf, mae Awst yn fis ardderchog i greu salad iachus gyda’r amrywiaethau o letys a gaiff eu tyfu yma yn y DU, fel letys cos a letys crensiog. Gall letys fod yn anoddach ei ddefnyddio i gyd na llysiau eraill, gan nad oes modd ei rewi (mae’n troi’n slwtsh!) – sydd efallai’n egluro’r ystadegyn brawychus fod 86,000 o letys cyfan yn cael eu taflu bob dydd yn y DU. Ond mae digonedd o ffyrdd o’i ddefnyddio yn lle ei daflu i’r bin! Wrth gwrs, mae salad yn gwneud saig ochr i gyd fynd â bron popeth y byddwch yn ei weini dros yr haf, boed hynny’n fwyd barbeciw ai peidio. Os byddwch yn darganfod fod gennych letys sydd wedi gweld dyddiau gwell, gallwch ei drawsnewid gan ddefnyddio ein rysáit Cawl letys blasus

Pupurau

Mae pupur yn llysieuyn amryddawn dros ben; gallwch ei fwynhau’n amrwd mewn salad – mae’n wych ar gyfer ychwanegu lliw, hefyd – neu ei goginio mewn amrywiol o ffyrdd blasus. Gallwch goginio pupurau wedi’u stwffio yn y ffwrn neu ar y barbeciw, neu eu sleisio i’w cynnwys mewn fajitas, chilli con carne neu dro–ffrio (fel ein Tro-ffrio briwgig cyflym). I greu naws hafaidd go iawn, beth am ddefnyddio pupurau coch, melyn a gwyrdd yn ein Reis wedi’i ffrio lliwiau’r enfys.

Eirin

Mae coeden sy’n gwegian dan eirin yn rhyfeddod i’w gweld, ac os ydych chi’n ddigon ffodus i gael un yn eich gardd, fe wyddoch gymaint o bleser sydd i’w gael o’u casglu â llaw. Gallwch drawsnewid eich eirin eich hunan neu rai a brynwyd yn lleol yn grymbl ffrwythau neu wneud jam eirin i’w fwynhau ym misoedd y gaeaf. Gallwch hyd yn oed eu defnyddio mewn seigiau sawrus, fel ein porc barbeciw blasus gydag eirin ac oren.

India-corn

P’un ai crasu india-corn cyfan ar y barbeciw ar ddiwrnod braf o haf ydych chi, ynteu’n ychwanegu darnau o gorn crensiog i’ch hoff seigiau pasta, mae india-corn yn drît go iawn yr adeg hon o’r flwyddyn. Gallwch ddefnyddio india-corn ffres mewn unrhyw rysáit sy’n galw am gorn tun – defnyddiwch ef yn ein Cacen bysgod tiwna, er enghraifft, neu yn ein Byrgyrs twrci ac india-corn blasus. Mae’n berffaith hefyd ar gyfer ychwanegu blas a difyrrwch i bron unrhyw saig sy’n galw am lysiau, fel Nwdls cyw iâr un badell, a gallwch ei wasgaru ar ben pizza hefyd.

Cyrn carw’r môr 

Dyma gloi’r post hwn gyda chynhwysyn anarferol. Planhigyn dŵr hallt yw cyrn carw’r môr, sy’n rhoi crensh a blas hallt dymunol i seigiau pysgod. Rhowch gynnig ar ei ferwi neu ei stemio am ychydig funudau a’i weini ynghyd â ffiled o’ch hoff bysgod a thatws newydd bach.

Am ragor o syniadau ar gyfer cynllunio prydau bwyd mis Awst, teipiwch enw eich cynhwysion ffres dros ben yn ein banc rysetiau i ddod o hyd i rysetiau sy’n eu cynnwys, a chofiwch ddod yn ôl y mis nesaf i weld beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Medi! 

 

Rhannu’r post blog hwn