Skip page header and navigation

Wrth i’r tywydd oeri ac wrth i’n meddyliau droi i gawl a photes cynhesol, mae’r rhestr o gynhwysion ffres, lleol sydd ar gael ar hyn o bryd yn byrhau. Ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes digonedd o gynnyrch lleol blasus i’w fwynhau wrth i’r gaeaf nesáu! Cofiwch fod afalau ffres ar gael tan fis Tachwedd, felly beth am wneud crymbl afalau taffi fel trît i chi’ch hun ar Noson Tân Gwyllt? Am fwy o ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio eich prydau bwyd ym mis Tachwedd, daliwch ati i ddarllen…

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Tachwedd

O edrych ar ganllaw’r Vegetarian Society, gwelwn fod y ffrwythau a llysiau ffres canlynol yn rhai gwych i’w hychwanegu i’n bwydlenni ym mis Tachwedd:



Afalau, Betys, Sbrowts, Gwrd Cnau Menyn, Moron, Blodfresych, Seleriac, Seleri, Cnau Castan, Sicori, Llugaeron, Eirion Ysgaw, Artisiog Jerwsalem, Bresych Deiliog, Cennin, Winwns, Pannas, Gellyg, Tatws, Pwmpenni, Cwins, Bresych Coch, Salsiffi, Bresych Crych, Swêj, Betys Arian, Maip, Berwr y Dŵr, Madarch y Coed, Gwrd y Gaeaf, Bresych Gwyn.

Isod, dyma rannu syniadau ar gyfer defnyddio rhai o’r cynhwysion ffres yn y rhestr flasus hon, a byddwn yn siarad mwy amdanynt yn ein canllaw Nadoligaidd y mis nesaf. Rydym hefyd wedi trafod llawer o’r lleill yn ein canllawiau misol blaenorol:

Seleriac

Seleriac yw gwreiddyn y planhigyn seleri, ac er ei fod ar gael gydol y flwyddyn, mae ar ei orau ar hyn o bryd. Mae blas y ddaear ar y llysieuyn cnapiog hwn, a gwead tebyg i faip, sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer rhoi sylwedd i gaserol, potes a chawl gaeafol cynhesol fel ein Cawl pwmpen sbeislyd. Os ydych chi’n ystyried paratoi rhywbeth hawdd i’w fwynhau Noson Tân Gwyllt, beth am roi cynnig ar wneud Quesadilla? – dyma saig Mecsicanaidd syml sy’n defnyddio bara tortila. Gallech hefyd dorri eich seleriac yn giwbiau a’i ddefnyddio i wneud y cyri llysiau cymysg hwn.

Eirin Ysgaw

Eirin ysgaw yw aeron y goeden ysgawen, ac yn union fel y blodau, gellir eu troi’n surop blasus y gallwch ei fwynhau mewn cordial neu goctels gydol y gaeaf. Rydyn ni’n dod i ddiwedd tymor eirin ysgaw nawr, ond efallai y byddwch yn ddigon ffodus i ddod o hyd i rai os oes gennych chi lygad craff wrth chwilota am fwydydd.

Winwns

Mae winwns ar gael gydol y flwyddyn, wrth gwrs – yn enwedig gan eu bod yn cadw’n dda os cânt eu storio yn y lle iawn – ond gyda llai o gynhwysion ffres ar gael yr adeg hon o’r flwyddyn (a mwy o ffrwythau a llysiau tymhorol ar ein rhestr aros ar gyfer ein canllaw mis Rhagfyr), mae’n teimlo fel amser da i’w trafod. Caiff nifer anhygoel o winwns eu taflu bob dydd yn y Deyrnas Unedig – 970,000 ohonynt! Ond gyda’r holl ffyrdd o’u defnyddio, does dim rhaid iddi fod fel hyn!



Mae winwns yn ffurfio’r sylfaen i amrywiaeth eang o sawsiau a chawl mewn rysetiau o bedwar ban byd, ond maen nhw hefyd yn wych i’w torri’n ddarnau bras a’u rhostio ynghyd â’ch hoff wreiddlysiau a gwrdiau tymhorol. Os oes gennych chi datws sydd angen eu defnyddio, beth am roi cynnig ar ein selsig, winwns a thatws pob?

Cwins

O’r diwedd, dyma ni wedi cyrraedd yr adeg o’r flwyddyn pan gawn fwynhau ffrwythau mwy anarferol wrth i’r gaeaf nesáu. Mae cwins yn debyg i ellyg o ran pryd a gwedd, ac maen nhw’n wych ar gyfer gwneud jeli a jam gaeafol, a gallwch ddefnyddio’r rhain yn eich pobi, wedi’u taenu ar dost, neu hyd yn oed eu mwynhau gyda chaws.



Ac wrth gwrs, gallwch ddod o hyd i ddigonedd o ysbrydoliaeth ar gyfer eich cynlluniau prydau bwyd ym mis Tachwedd yn ein banc rysetiau, ac os dowch yn ôl mis nesaf, byddwn yn darganfod beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Rhagfyr!

 

Rhannu’r post blog hwn