Skip page header and navigation

Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Ebrill? 

Mae’r gwanwyn yn amser bendigedig o’r flwyddyn am sawl rheswm, ond un o’r pethau gorau i ni yw bod llawer mwy o ffrwythau a llysiau blasus yn ein cyrraedd o’r caeau yn barod i ni eu mwynhau yn ein hoff brydau. Mae bwyta cynnyrch lleol ffres yn dda i’r blaned – heb sôn am ei fod yn blasu’n well – felly os hoffech i’ch thema ar gyfer cynlluniau prydau bwyd mis Ebrill gynnwys yr hyn sy’n dda i’w fwyta’r mis yma, rydych chi yn y lle iawn! Daliwch ati i ddarllen am syniadau ar gyfer ryseitiau blasus sy’n manteisio ar y cynnyrch sy’n ffres ym mis Ebrill.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Ebrill

Mae canllaw’r Vegetarian Society yn dweud wrthym mai dyma’r ffrwythau a llysiau sydd ar eu gorau ym mis Ebrill: 

Artisiog, Betys, Moron, Sicori, Tatws Newydd, Cêl, Madarch Morel, Pannas, Radis, Riwbob, Berwr, Suran, Sbigoglys, Bresych Deiliog, Shibwns, Berwr y Dŵr.

Rydym wedi dewis rhai o’n hoff gynhwysion o’r rhestr hon, felly dyma rannu awgrymiadau blasus ar gyfer eich cynlluniau prydau bwyd mis Ebrill isod. Fe wnaethom ni drafod moron yn ein canllaw beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Chwefror, a betys, riwbob, bresych deiliog a shibwns yn beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Mawrth, felly ewch i fwrw golwg arnyn nhw am fwy fyth o ysbrydoliaeth! 

Tatws newydd

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, ac felly hefyd y tatws newydd! Mae nifer syfrdanol o datws cyfan yn mynd i’r bin yn y Deyrnas Unedig bob dydd – 4.4 miliwn ohonyn nhw, ond mae cymaint o ffyrdd o’u defnyddio, felly does dim angen iddi fod fel hyn. Mae tatws yn gydymaith delfrydol i ffiled o’ch hoff bysgodyn, neu gyw iâr rhost neu goes cig oen, gallech stemio, berwi neu rostio’r tatws amryddawn hyn, ac maen nhw’n arbennig o flasus wedi’u gweini gyda lwmp o fenyn wedi’i doddi drostynt. Ar ddiwrnod cynnes, does dim gwell na salad tatws – jyst eu berwi ymlaen llaw, gadael iddyn nhw oeri, ac yna eu cymysgu gyda mayonnaise a winwns coch neu shibwns wedi’u torri’n fân. Gallwch hefyd eu defnyddio mewn nifer o rysetiau sy’n galw am fathau eraill o datws; fe fydden nhw’n gweithio’n dda yn ein pizza cennin a thatws dros ben, er enghraifft.

Cêl

Gall fod yn anodd cyffroi ynghylch cêl, ond mae’r aelod hynod iachus hwn o deulu’r bresych yn ffres y mis yma, ac mae’n ffordd ardderchog o gael maeth ychwanegol yn eich pryd o fwyd, p’un ai wedi’i stemio fel saig ar y naill ochr, neu wedi’i gynnwys o fewn rysáit, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer ei ychwanegu at gawl neu stiw. Os ydych chi’n teimlo’n arbennig o iachus, gallech hyd yn oed ei flendio mewn smwddi – does dim angen ei goginio’n gyntaf! 

Radis 

Ychwanegwch ychydig o grensh, lliw, a blas puprog at eich hoff salad y mis yma – mae hi’n dymor radis! Yn ogystal â’u sleisio a’u rhoi mewn salad, maen nhw’n flasus i’w bwyta’n gyfan, felly beth am eu mwynhau fel byrbryd iach neu gyda pheth o’n hwmws betys blasus? Mae radis hefyd yn gwneud gorffeniad delfrydol i kimchi cartref syml, y saws Coreaidd trwchus sy’n rhoi blas bywiog ar bob math o’ch hoff seigiau.

Berwr

Nid radis yw’r unig lysieuyn puprog ffres y mis yma – mae berwr ar gael hefyd! Yn ogystal â defnyddio berwr i wneud salad, gallwch hefyd wasgaru dail berwr ar unrhyw pizza (neu ar ein bara fflat cig oen crimp Morocaidd) fel topin iach ychwanegol sy’n llawn blas. Gallwch weini berwr ar ben ein tarten winwns coch a chaws gafr ynghyd â berwr y dŵr – sydd hefyd yn ffres y mis yma – ac os bydd gennych gig oen dros ben ar ôl eich cinio Pasg, defnyddiwch ef i wneud ein risoto cig oen Cymru gyda berwr a chaws Parma.

Sbigoglys

Mae’n anhygoel gymaint llai mae sbigoglys yn mynd wrth gael ei goginio, felly hyd yn oed os byddwch yn meddwl fod gennych lwyth ohono i’w ddefnyddio, mae’n syfrdanol o hawdd ychwanegu swm sy’n edrych yn anferthol at eich hoff brydau! Mae’n ffordd wych o ychwanegu at werth maeth pryd o fwyd, mae’n gweithio’n dda mewn bob math o fwydydd, yn cynnwys pei Groegaidd caws, sbigoglys a ham. Gellir ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd, felly does dim ots os yw wedi’i nodi fel prif gynhwysyn yn y rysáit ai peidio, mae’n hawdd ei ychwanegu at seigiau pasta, tro-ffrio (fel ein tro-ffrio briwgig cyflym), stiwiau, caserolau neu unrhyw beth arall sydd at eich blas.

Fe allwch ddod o hyd i fwy fyth o syniadau ar gyfer prydau blasus o fwyd yn ein banc rysetiau, ac fe fyddwn ni’n ôl y mis nesaf gyda chanllaw i’r hyn sy’n dda i’w fwyta ym mis Mai! 

 

Rhannu’r post blog hwn