Skip page header and navigation

Gall hyd yn oed y siopa bwyd Nadolig mwyaf call a cynnil arwain at ail neu drydydd platiad ar gyfer y dyddiau canlynol, felly dyma awgrymiadau ichi ar gyfer gwneud i’ch gwledda Nadoligaidd fynd ymhellach. Mae’r rhain yn ddefnyddiol hefyd gan eu bod yn ddigon cyflym i’w gwneud, felly ni fyddwch yn gaeth i’r gegin am rhy hir – mae gennych chi ddigon o raglenni teledu Nadolig i’w gwylio, wedi’r cwbl!

Twrci

Mae twrci oer yn flasus ar ei ben ei hun, wedi’i weini gyda’ch hoff siytni mewn brechdanau, neu fel pryd llawn gyda thaten drwy’i chroen a salad. Ond mae digonedd o ffyrdd eraill creadigol o’i ddefnyddio os bydd gennych awydd treulio ychydig mwy o amser yn y gegin.

Ni fyddai’r un casgliad o rysetiau bwyd Dolig dros ben yn gyflawn heb y cyri twrci bondigrybwyll, sy’n siŵr o blesio, ac ynghyd â bod yn boblogaidd, mae’n hawdd gwneud iddo fynd ymhellach gyda reis a bara naan os bydd angen bwydo mwy o bobl.

Mae cawl twrci yn bryd gaeafol cynhesol bendigedig, ac mae’n ginio gwych i’w gael wrth law pan fo aelodau’r teulu’n ymweld ar ôl y Nadolig, ac mae pasteiod twrci a llugaeron yn fersiwn Nadoligaidd o bastai Cernyw sy’n defnyddio peli stwffin dros ben hefyd. Gallwch hyd yn oed eu rhewi cyn eu coginio i gael pryd blasus o fwyd rywdro arall!

Tatws a llysiau

Mae’r ffefryn hen ffasiwn, stwnsh tatws a chabetsh yn ffordd wych o ddefnyddio unrhyw datws stwnsh na chafodd eu bwyta Ddydd Nadolig, ynghyd ag unrhyw lysiau eraill sy’n llechu yn yr oergell: pannas, moron, sbrowts, blodfresych, brocoli… unrhyw beth. Mae’n syml i’w wneud – torri’r cwbl yn ddarnau mân, eu cyfuno gyda winwns wedi’u ffrio a chaws, a’i ffurfio yn beli bychan yn barod i’w pobi yn y ffwrn neu eu rhewi ar gyfer rhywdro eto.

Ar thema debyg, gallwch addasu ein hash tatws a llysiau diwastraff i weddu i unrhyw lysiau dros ben sy’n llechu yn yr oergell, ac mae’n opsiwn gwych ar gyfer brinio! Cofiwch ychwanegu unrhyw stwffin dros ben, hefyd. Fel gyda thwrci dros ben, mae cawl llysiau a chyri llysiau yn gweithio’n dda fel ffordd o ddefnyddio eich llysiau rhost o’r wledd Nadolig.

Os oes gennych chi bentwr o sbrowts dros ben, rhowch gynnig ar ein sbrowts gyda pancetta a chnau castan – fe welwch chi sbrowts mewn goleuni newydd, wir i chi!

Bord caws

Os gwnaethoch chi brynu gormodedd o gaws ar gyfer y Dolig, na phoener: bydd y caws dros ben yn mynd i lawr yn dda iawn mewn macaroni caws blasus, neu gallwch ei ddefnyddio i weini llysiau dros ben drwy wneud blodfresych neu frocoli mewn saws caws.

Syniad campus arall ar gyfer swper hwyliog i’r teulu yw ei doddi i wneud fondue caws moethus – a bydd hynny’n golygu y cewch ddefnyddio unrhyw fara dros ben sydd angen ei fwyta hefyd. Gallech hyd yn oed wneud sbrowts a thatws rhost fel rhan o’ch fondue, ynghyd ag unrhyw beth arall y gallwch ei roi mewn caws tawdd heb iddo ddisgyn yn ddarnau!

Wrth gwrs, gallwch gratio caws dros ben ar y cawl llysiau y gwnaethom sôn amdano ynghynt, a gellir gratio a rhewi unrhyw gaws na allwch ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn barod at rywdro eto.

Pwdin Dolig

Ac, yn olaf, mae teisen Dolig wedi’i fwriadu i gadw am hydoedd, ond os ydych chi’n pendroni beth i’w wneud gyda’r darnau o bwdin Dolig dros ben nad oedd neb yn gallu ei fwyta ar y diwrnod mawr ei hun, dyma syniad blasus ar ei gyfer: pwdin ffondant siocled. Mae pwdin Dolig hefyd yn berffaith fel topin crymbl os oes gennych afalau i’w defnyddio – mae’r sbeis cynnil yn gweithio’n wych gyda llenwad afal a mwyar. Mae’n debygol y bydd llawer ohonom yn ei fwynhau fel hyn yn fwy nag ar ei ffurf wreiddiol Ddydd Nadolig…

Rhannu’r post blog hwn