Skip page header and navigation

Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Mai?

Mae’r haf yn prysur nesáu, ac wrth i’r gwanwyn droi’n haf, mae mwy fyth o ffrwythau a llysiau blasus yn mwynhau eu cyfnod toreithiog. Rydym wrth ein boddau’n bwyta cynnyrch lleol ffres, ac nid dim ond am ei fod yn well i’r amgylchedd na bwyd sydd wedi teithio hanner ffordd rownd y byd i’n cyrraedd, ond am ei fod yn blasu’n well! Os hoffech gael ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio prydau bwyd mis Mai, dyma’r holl syniadau y mae eu hangen arnoch er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr hyn sy’n dda i’w fwyta’r mis yma.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Mai

Fel mae canllaw defnyddiol y Vegetarian Society yn ei nodi, dyma’r ffrwythau a llysiau sydd ar eu gorau ym mis Mai:

Artisiog, Asbaragws, Planhigyn Wy, Betys, Sicori, Tsilis, Blodau’r Ysgaw, Letys, Maro, Tatws Newydd, Pys, Pupurau, Radis, Riwbob, Berwr, Cyrn Carw’r Môr, Suran, Sbigoglys, Bresych Deiliog, Shibwns, Mefus, Bresych Hisbi, Berwr y Dŵr

Yn ôl ein harfer, dyma rannu syniadau ar gyfer defnyddio rhai o’n hoff gynhwysion o’r rhestr hon isod, ond cofiwch hefyd fwrw golwg yn ôl ar ein canllawiau misol blaenorol am fwy fyth o ysbrydoliaeth ar gyfer y mis: 

Asbaragws

Mae tymor asbaragws yn un byr, ond mae’n sicr yn un i’w fwynhau ym mis Mai. Mae cyfoeth o ffyrdd o weini asbaragws blasus y gwanwyn: gallwch ei ferwi, ei stemio, ei rostio mewn olew a finegr balsamaidd, a thaenu caws Parma ar ei ben… neu ei dorri a’i ddefnyddio yn ein risoto llysiau’r gwanwyn neu gawl minestrone verde – mae’r rhain ill dau yn ffordd wych o ddefnyddio unrhyw lysiau eraill dros ben sydd gennych yn yr oergell.

Planhigyn Wy

Dyma lysieuyn amryddawn arall sy’n ffres ym mis Mai. Mae planhigyn wy yn dda i’w sleisio i wneud ein mousaka corbys, planhigyn wy a thomatos neu ei dorri’n fân i fwynhau gyda bruschetta ar ein llysiau garlleg ar dost. Mae’n ddelfrydol i’w dorri’n giwbiau hefyd, a’i ychwanegu at gyri neu stiw, yn ogystal â’i rostio’n gyfan gyda stwffin wedi’i wneud o rysáit o’ch dewis chi. Gallwch hyd yn oed ei roi ar y barbeciw os cawn ni ddiwrnod braf!

Blodau’r Ysgaw

Mae’r Ysgaw yn dueddol o flodeuo tuag at ddiwedd y mis, ac mae mynd i’w hela yn weithgaredd hwyliog ar ddiwrnod braf. Mae blodau’r ysgaw’n adnabyddus fel blodau a ddefnyddir i wneud cordial ffres. Nid i’w yfed yn unig y mae’r cymysgedd trioglyd hwn yn dda – gallwch hefyd ei gymysgu mewn danteithion melys eraill fel teisennau, treiffl a jam.

Maro

Gan mai courgettes anferthol yw’r rhain (yr unig wahaniaeth yw eu bod yn cael eu gadael i dyfu ar y planhigyn yn hirach), gellir defnyddio maro mewn unrhyw rysáit sy’n galw am courgettes, o ratatouille i deisen courgette. Hefyd, maen nhw’n flasus wedi’u stwffio a’u gweini’n gyfan. Dyma ein maro wedi’i stwffio â briwgig eidion, sy’n rysáit ddelfrydol ar gyfer defnyddio Bolognese neu chilli con carne sydd dros ben – gallwch ddefnyddio fersiynau llysieuol yr un mor hawdd, wrth gwrs!

Pys

Prin yw’r seigiau nad ydynt yn cael eu gwella drwy ychwanegu pys – ac mae ganddynt lawer mwy o rinweddau na’u gweini fel saig ar y naill ochr gyda’n hoff brydau bwyd, o ginio rhost i quiche. Gallwch eu hychwanegu at basteiod, fel ein pastai llysiau, pastai’r bwthyn neu bastai’r bugail, neu bastai pysgod; cawl, fel y cawl pys a mintys hwn; risoto, fel ein risoto cig oen Cymreig; a seigiau pasta, cyri, cawliau ac, wel, bron unrhyw beth arall y gallech feddwl amdano, a dweud y gwir. Maen nhw’n ychwanegu blas, ansawdd a maeth i unrhyw bryd o fwyd, felly manteisiwch i’r eithaf arnyn nhw tra byddan nhw ar eu gorau! 

Ewch i fwrw golwg ar ein banc rysetiau am fwy fyth o ysbrydoliaeth ar gyfer cynllunio prydau mis Mai, a chofiwch ddod yn ôl y mis nesaf i weld beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Mehefin.



 

Rhannu’r post blog hwn