Skip page header and navigation

Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Mawrth?

Yn y diweddaraf o’n canllaw fesul mis yn trafod yr hyn sy’n dda i fwyta ar hyn o bryd, rydym am rannu rhai o’n hoff rysetiau ar gyfer mwynhau rhai o’r ffrwythau a llysiau sy’n ffres y mis yma. Dewch gyda ni am gynlluniau prydau bwyd llawn daioni ar gyfer mis Mawrth!

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Mawrth

Yn ôl y canllaw defnyddiol hwn gan y Vegetarian Society, dyma’r ffrwythau a llysiau sydd ar eu gorau’r mis yma:

Artisiog, Betys, Moron, Sicori, Ciwcymbr, Cennin, Pannas, Brocoli Hirgoes, Radis, Riwbob, Suran, Bresych Deiliog, Shibwns, Berwr y Dŵr 

Rydym wedi dewis rhai o’n ffefrynnau o’r rhestr hon, felly dyma rannu awgrymiadau blasus ar gyfer eich cynlluniau prydau bwyd mis Mawrth isod. Cofiwch ein bod wedi trafod moron a chennin yn ein canllaw beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Chwefror, felly ewch i fwrw golwg ar y blog hwnnw am fwy o ysbrydoliaeth!

Betys

Os bydd arnoch angen rhoi gwedd binc i bryd o fwyd, betys yw’r ateb – ac mae ein rysáit hwmws betys yn enghraifft wych! Mae Betys yn rhoi ysgafnder a blas yn ogystal â lliw yn y dip hyfryd hwn, a gallwch ei fwynhau gyda moron (sydd hefyd yn ffres y mis yma) a batonau eraill o’ch hoff lysiau. Gallech hefyd ddefnyddio tafelli tenau o fetys ffres i wneud creision llysiau Mecsicanaidd, sy’n wych ar gyfer eu gweini fel dewis iach amgen yn hytrach na nachos. 

Riwbob

Mae riwbob yn gynhwysyn ffres arall sydd â’r potensial i roi gwawr binc hyfryd i’ch bwyd. Mae’n ychwanegiad hyfryd at frecwast; dim ond ei fudferwi’n araf gyda siwgr a dŵr nes bydd yn lleihau, ac yn ffurfio compot llyfn yn barod i’w weini gydag iogwrt, ei daenu ar ben granola, neu ei ychwanegu at uwd. Byddwn yn cadw riwbob i’r naill ochr y mis yma hefyd, ar gyfer gwneud crymbl blasus. Fe wnawn ni weini hwn gyda digonedd o gwstard poeth er mwyn defnyddio llaeth dros ben – y trît delfrydol ar noson oer ym mis Mawrth.

Bresych deiliog

Gellir disgrifio nifer o lysiau ffres sydd ar gael yr adeg hon o’r flwyddyn fel rhai ‘deiliog’, ond mae’r enw hwn cyfeirio’n benodol at fresych ifainc iawn, sydd â siâp tebyg i letys cos, gyda dail llac, gwyrdd, trwchus, yn hytrach na’r peli tynn rydyn ni’n eu disgwyl fel arfer gyda bresych. Maen nhw’n cyd-fynd yn dda iawn ag unrhyw ginio rhost y mis yma – a gyda chig oen y gwanwyn ar y fwydlen hefyd, mae yna ddigon i edrych ymlaen ato. Os oes gennych chi unrhyw gig oen dros ben, beth am ei weddnewid i wneud y Pei Groegaidd cig oen, sbigoglys a ffeta hwn, neu bastai cinio rhost dros ben blasus?

Shibwns

Winwns ifainc iawn yw shibwns mewn gwirionedd, ac maen nhw’n ffordd wych o roi blas i amrywiaeth o seigiau – nid salad yn unig! Os bydd angen eu defnyddio arnoch, gallwch eu rhoi mewn unrhyw rysáit sy’n galw am winwns, er bod blas llai cryf arnynt. Maen nhw’n gwneud gwaith da yn lle winwns coch mewn salsa neu gwacamole hefyd!

Brocoli hirgoes

I gloi, dyma drafod brocoli hirgoes. Dewis blasus arall i gyd-fynd â’ch cinio rhost, neu bastai neu quiche y mis yma. Gallwch fwyta’r coesau a’r dail yn ogystal â’r blodion – jyst tynnwch y darnau prennaidd mwyaf trwchus. Gallwch ferwi, stemio neu rostio brocoli hirgoes, ynghyd â’i ddefnyddio mewn unrhyw rysáit sy’n galw am frocoli cyffredin, yn cynnwys seigiau pasta fel ein Cyri llysiau cymysg.

Beth am bori drwy ein banc rysetiau am wledd o ysbrydoliaeth coginio, a chofiwch alw heibio eto’r mis nesaf i gael tips ar ddefnyddio cynnyrch ffres ym mis Ebrill!

 

Rhannu’r post blog hwn