Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
- Type: Bwydydd
Cig wedi’i halltu yw bacwn, a gellir ei brynu fel sleisys neu fel darn o gig. Caiff ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o seigiau cig ac mae’n frecwast poblogaidd hefyd.
- Type: Bwydydd
Mae sudd ffrwythau ar gael yn helaeth mewn amrywiaeth eang o flasau gwahanol a gellir ei wneud o ffrwythau newydd eu gwasgu neu o sudd crynodedig.
- Type: Bwydydd
Mae porc yn cyfeirio at ddarnau o gig mochyn amrwd, heb ei halltu, a gellir ei brynu ar amryw ffurf wahanol yn cynnwys golwythion, asennau breision, a darnau mwy ar gyfer eich cinio rhost. Yn ogystal â’u rhostio, gellir ffrio porc mewn padell, ei grilio neu ei goginio yn y crochan araf.
- Type: Bwydydd
Dyma un o’n hoff ffrwythau arferol, ac mae llawer o amrywiaethau’n cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig. Mae afalau’n ffynhonnell dda o fitamin A a fitamin C, ac maent wedi’u rhannu’n ddau gategori: afalau bwyta ac afalau coginio.
- Type: Bwydydd
Bwyd llawn maeth y gellir ei fwynhau mewn sawl ffordd, sy’n cyfrannu at eich 5 y dydd. Mae’n uchel mewn braster monoannirlawn ac fe’i defnyddir yn aml mewn salad, mewn bara tortila a seigiau poeth.
- Type: Bwydydd
Ffrwyth poblogaidd sydd â nifer o fuddion iechyd yn perthyn iddo, a gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, o smwddis i bwdinau, neu’n syml eu bwyta fel ag y maent, heb eu crwyn.
- Type: Bwydydd
Mae amrywiaeth eang o aeron suddlon ar gael yn ein siopau, e.e. mwyar duon, llus, grawnwin, mafon, cyrens cochion, mefus. Caiff llawer o’r rhain eu tyfu yn y Deyrnas Unedig a gellir eu defnyddio i wneud pob math o wahanol rysetiau blasus.
- Type: Bwydydd
Mae’r grŵp lliwgar, bywiog hwn o ffrwythau’n cynnwys orennau, lemonau, leimiau, a grawnffrwyth. Maen nhw’n llawn fitaminau a mwynau sy’n ein helpu i gadw’n iach.
- Type: Bwydydd
Ffrwyth poblogaidd, ac mae llawer o wahanol fathau ar gael, yn cynnwys gwyrdd, coch a du. Caiff grawnwin eu defnyddio mewn prydau melys a sawrus ill dau.
- Type: Bwydydd
Gallwn brynu amrywiaeth eang o fathau o felonau yn ein siopau, yn amrywio o’r rhai llai fel cantaloupe melys, neu rai mwy fel melon dŵr.