Bwyd llawn maeth y gellir ei fwynhau mewn sawl ffordd, sy’n cyfrannu at eich 5 y dydd. Mae’n uchel mewn braster monoannirlawn ac fe’i defnyddir yn aml mewn salad, mewn bara tortila a seigiau poeth. Gellir stwnshio afocados hefyd i wneud dip blasus.
Sut i'w storio
Sut i storio afocados ffres
Os yw eich afocados wedi aeddfedu, cadwch nhw yn yr oergell. Os ydych am iddyn nhw aeddfedu, storiwch nhw ar dymheredd ystafell nes byddan nhw wedi aeddfedu.
Rhewi afocados
Gellir rhewi afocados mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio afocados wedi’u coginio
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
Afocado – tips gwych
Sut i'w rewi a dadrewi
I’w rewi: I rewi eich afocado, torrwch ef yn ei hanner, ei blicio a’i roi mewn bag neu gynhwysydd sy’n selio a’i rewi. Gallwch hefyd wneud piwrî neu stwnsh o’r afocados gan ddefnyddio fforc neu mewn prosesydd bwyd gydag ychydig bach o sudd leim neu lemon. Storiwch mewn bag y gellir ei ail-selio a’i rewi.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Defnyddiwch afocado dros ben, neu sydd wedi crebachu neu fynd yn feddal, mewn smwddis. Mae afocados wedi’u rhewi (p’un ai wedi’u rhewi gartref neu wedi’u prynu o rewgell y siop) yn wych i wneud gwacamole, dresins a dipiau. Jyst eu dadrewi dros nos yn yr oergell ac maen nhw’n barod i’w defnyddio!
Tips ar gyfer ei brynu
Ystyriwch brynu afocados rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Ystyriwch gyfnewid afocado ffres am afocado wedi’i dorri a’i rewi (mae’n aml yn cael ei ddefnyddio i wneud dip yn y pen draw). Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Afocado
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Mae afocados yn ffynhonnell dda o asid pantothenig, sy’n gweithio mewn llawer o ffyrdd, yn cynnwys helpu’r corff ryddhau egni o’n bwyd.
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Afocado
Mae’r rhain yn berffaith i’w rhannu, mae'r pryd hwn yn gwneud byrbryd gwych ar gyfer parti penwythnos.