Skip page header and navigation

Ffrwythau sitrws

Rhewi? Yes
Tymor Ar gael gydol y flwyddyn
Storio Yn yr oergell
Uchel mewn fitamin C a mwynau
Pentwr bach o lemonau, orennau a leimiau

Mae’r grŵp lliwgar, bywiog hwn o ffrwythau’n cynnwys orennau, lemonau, leimiau, a grawnffrwyth. Maen nhw’n llawn fitaminau a mwynau sy’n ein helpu i gadw’n iach. Gellir eu defnyddio mewn seigiau melys a sawrus, yn cynnwys y croen, sy’n cynnwys ergyd ychwanegol o flas. 

Sut i'w storio

Sut i storio ffrwythau sitrws

Dylid storio ffrwythau sitrws yn yr oergell.

Rhewi ffrwythau sitrws

Gellir rhewi ffrwythau sitrws mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio ffrwythau sitrws

Er nad yw ffrwythau sitrws yn cael eu coginio gan amlaf, os byddwch wedi’u coginio, e.e. grilio lemonau, yna dylid eu storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Ffrwythau sitrws – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gellir rhewi holl ffrwythau sitrws yn syml drwy eu sleisio a’u rhewi, neu wasgu’r sudd ohonynt a’u rhoi mewn clawr ciwbiau rhew i’w hychwanegu at ddiodydd ac wrth goginio. Os byddwch yn rhewi’r crwyn, bydd yn llawer haws gratio’r crwyn gyda gratiwr os byddwch am eu defnyddio rywdro arall.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei ddefnyddio. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Mae gwneud croen sitrws candi’n golygu y bydd yn cadw am 6 – 8 wythnos mewn cynhwysydd aerglos. Gallwch ei ddefnyddio mewn teisennau ffrwythau, myffins neu ddanteithion melys eraill.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Rholiwch ffrwythau sitrws ar arwyneb caled gyda’ch llaw. Mae hyn yn ei gwneud yn haws ichi eu gwasgu ar ôl eu torri, i wneud yn siŵr eich bod yn cael cymaint o sudd â phosibl allan ohonyn nhw.

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu ffrwythau sitrws yn rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Cofiwch, mae mandarins a grawnffrwyth ar gael mewn tuniau hefyd.

 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Ffrwythau sitrws

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae ffrwythau sitrws yn ffynhonnell wych o fitamin C, sy’n helpu i amddiffyn celloedd, cadw eich croen, pibellau gwaed, esgyrn a chartilag yn iach, a helpu briwiau i wella.
  • Mae orennau hefyd yn helpu’r corff brosesu a rhyddhau egni o’n bwyd a chadw’r system nerfau’n iach.
  • Maen nhw’n ffynhonnell ardderchog o ffibr, sy’n helpu gyda threuliad.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Ffrwythau sitrws

Gormod o fins peis? Bydd y brownis blasus hyn yn rhoi bywyd arall iddynt.

Ciwbiau o frownis siocled meddal

Os yw eich bagiau te yn agosáu at y dyddiad y dylid eu defnyddio erbyn a'ch bod yn pendroni beth i'w wneud, beth am eu hychwanegu at gacen Nadolig funud olaf! Mae'r rysáit hon hefyd yn defnyddio ffrwythau sych a chnau sydd gennych yng nghefn y cwpwrdd.

Teisen Nadolig gydag eisin ac addurniadau gyda sleisen ar goll, wedi’i hamgylchynu gan addurniadau

Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.

Powlen fawr o gwinoa wedi’i gyfuno â thafelli o afal suddlon