Skip page header and navigation

Bananas

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Cadwch yn oer mewn cwpwrdd neu ar y cownter
Ffynhonnell wych o botasiwm
Bwnsiad o fananas aeddfed

Ffrwyth poblogaidd sydd â nifer o fuddion iechyd yn perthyn iddo, a gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, o smwddis i bwdinau, neu’n syml eu bwyta fel ag y maent, heb eu crwyn. Mae bananas yn ffynhonnell wych o egni uniongyrchol, ac yn dda i’w bwyta 30 – 60 munud cyn gwneud ymarfer corff.

Sut i'w storio

Sut i storio bananas ffres

Cadwch eich bananas yn rhywle oer braf, mewn cwpwrdd neu ar y cownter. Fe wnaiff bananas droi’n ddu os cânt eu rhoi yn yr oergell.

Rhewi bananas

Gellir rhewi bananas mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio bananas wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Bananas – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gall bananas fynd yn frown yn eithaf cyflym, felly os gwelwch fod brychni yn dechrau codi arnynt, tynnwch y crwyn a rhewi’r bananas i’w defnyddio rywdro eto.

I’w dadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Os ewch i chwilio ar-lein am ‘pulled peel’, fe welwch wybodaeth am sut mae rhai pobl wedi dechrau coginio crwyn bananas fel saig sy’n debyg i borc wedi’i rwygo. 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Bananas ffres

Bananas dros ben? Yn mynd yn frown? Mae bananas wedi’u rhewi’n wych i’w rhoi mewn smwddis, yn ogystal â gwneud bara/torth fananas.

Neu, gallech bobi bananas yn y ffwrn gydag ychydig o fêl ar eu pennau i wneud pwdin blasus. Gallwch hefyd ychwanegu bananas at seigiau sawrus; eu defnyddio mewn cyri, yn ddelfrydol gyda llysiau neu gorbys, neu hyd yn oed eu stwnshio i’w rhoi mewn brechdan!

 

Bananas wedi’u rhewi

Gallwch roi bananas wedi rhewi mewn prosesydd bwyd a’u blendio i wneud pwdin iach sy’n debyg i hufen iâ.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu bananas rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Bananas

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Maen nhw’n ffynhonnell potasiwm, mwn sy’n helpu i reoli cydbwysedd hylifau yn y corff, a hefyd yn helpu cyhyr y galon i weithio’n iawn.
  • Mae’n cynnwys fitamin B1 sy’n helpu’r corff ymddatod egni o’n bwyd a’i ryddhau.
  • Ffynhonnell o fitamin B6 sy’n helpu’r corff ddefnyddio a storio egni o’r protein a’r carbohydradau mewn bwyd.

     






Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Bananas

Mae'r myffins hyn yn ddelfrydol ar gyfer defnyddio bananas aeddfed. Gallwch hefyd ddefnyddio ffrwythau eraill sydd angen eu defnyddio, fel afalau, llugaeron, orenau, gellyg neu hyd yn oed ffrwythau tun!

Perfectly baked golden banana and honey muffins pictured next to a bunch of whole bananas

Pa ffordd well o ddefnyddio'ch bananas sydd wedi aeddfedu gormod na'r bara banana heb glwten swmpus hwn sy’n toddi yn eich ceg.

Torth fanana wedi’i sleisio’n drwchus

Mae'r bariau egni hyn yn wych i ddefnyddio unrhyw gnau neu ffrwythau sych sydd gennych yng nghefn eich cwpwrdd; cnau coco sych, darnau bach o siocled, neu unrhyw beth arall yr ydych ei awydd! Ar gyfer dewis figan hawdd, cyfnewidiwch y menyn a'r mêl am ledaeniad llysiau a surop masarn.

rich golden squares of flapjack topped with baked slices of banana