Pwdin syml ond blasus ar gyfer defnyddio'r gormodedd o ffrwythau'r hydref.

Dyma un o’n hoff ffrwythau arferol, ac mae llawer o amrywiaethau’n cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig. Mae afalau’n ffynhonnell dda o fitamin A a fitamin C, ac maent wedi’u rhannu’n ddau gategori: afalau bwyta ac afalau coginio. Gellir defnyddio afalau coginio i wneud pob math o bwdinau, fel pastai, crymbl neu eu pobi’n gyfan wedi’u stwffio â rhesins a sinamon.
Cadwch eich afalau yn yr oergell i sicrhau ansawdd a’u cadw’n ffres. Fe wnân nhw gadw’n hirach na phe byddech yn eu cadw allan mewn powlen ffrwythau.
Gellir rhewi afalau mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
I’w rhewi: Gellir rhewi afalau fel sleisys ar ôl eu coginio’n sydyn mewn dŵr berw. Dylech eu rhewi fel un haen, yna’u pacio mewn bagiau ar ôl iddyn nhw rewi. Gallwch ddefnyddio’r afalau wedi’u rhewi i wneud teisen afalau neu saws afalau.
I’w dadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell.
Does dim angen plicio afalau. Dim ond eu golchi cyn eu defnyddio.
Gellir defnyddio afalau dros ben sydd wedi crebachu neu fynd yn feddal i wneud smwddis. Maen nhw’n wych hefyd mewn picl, siytni neu hyd yn oed wedi’u cynnwys mewn cyri. Gallwch stiwio hen afalau i wneud saws afal neu eu defnyddio mewn crymbl.
Ystyriwch brynu afalau rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Mae’n bosibl prynu sleisys afalau wedi’u rhewi, sy’n ddelfrydol i’w defnyddio mewn pasteiod neu bwdinau. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Mae llenwad neu dopin pastai afal hefyd yn dod mewn tuniau.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Pwdin syml ond blasus ar gyfer defnyddio'r gormodedd o ffrwythau'r hydref.
Defnyddiwch unrhyw amrywiaeth o afalau pwdin yn y rysáit flasus hon, sy'n cynnwys saws taffi cyflym a chrymbl crimp wedi'i wneud o doesen dros ben ar ei ben.
Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.