Dyma rysáit gwych i ddefnyddio ffrwythau meddal sydd wedi dechrau mynd yn hen, ond nid pan fydd wedi mynd cyn belled ei fod wedi cyrraedd y cam llwydo! Mae'r jam ffrwythau hwn yn debycach i gompot na jam arferol ac mae angen ei fwyta o fewn ychydig ddyddiau. Mae'n gyflym i'w wneud ac mae'n hyfryd wedi'i weini gyda sgonau, ar dost, wedi'i gymysgu i mewn i iogwrt neu ei roi ar hufen iâ.
