Skip page header and navigation

Bacwn

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Gwaelod yr oergell
Mae’n cynnwys protein a brasterau dirlawn
Tafelli o facwn amrwd

Cig wedi’i halltu yw bacwn, a gellir ei brynu fel sleisys neu fel darn o gig. Caiff ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o seigiau cig ac mae’n frecwast poblogaidd hefyd.

Sut i'w storio

Sut i storio bacwn ffres

Unwaith bydd pecyn wedi’i agor, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn ynghylch sut i’w storio ac erbyn pa bryd i’w ddefnyddio. Dylid storio’ch holl gig amrwd ar waelod yr oergell mewn cynhwysydd glan, aerglos.

Rhewi bacwn

Gellir rhewi bacwn mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am 3-6 mis.

Storio bacwn wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Bacwn – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Gwahanwch becyn mawr o facwn yn sleisys gan ddefnyddio papur gwrthsaim cyn ei rewi. Wedyn, gallwch ddadrewi dim ond yr hyn y bydd ei angen arnoch rywdro eto.

I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio.

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Bacwn amrwd

Gallwch ychwanegu unrhyw facwn amrwd sydd angen cael ei ddefnyddio at gawl, stiw neu seigiau pob.

 

Bacwn wedi’i goginio

Peidiwch â thaflu bacwn wedi’i goginio sydd dros ben ers amser brecwast, torrwch ef yn fân i wneud topin crensiog ar gyfer ei roi ar salad neu ar eich hoff saig pasta.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ystyriwch hefyd brynu’n lleol ac yn organig i leihau eich ôl-troed bwyd (yr effaith ar ein planed).

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Bacwn

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Ffynhonnell protein, sy’n cael ei ddefnyddio gan y corff i adeiladu a thrwsio cyhyrau ac esgyrn. 
  • Ffynhonnell o frasterau dirlawn nad ydynt yn iach, felly gorau oll os byddwch yn cyfyngu ar faint/pa mor aml rydych yn bwyta bacwn.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Bacwn

Mae'r rhain yn ddarnau bach fflat a haenog, siâp deilen y gellir eu gwneud o flaen amser a'u rhewi. Hyd yn oed os yw'r crwst wedi'i rolio'n barod, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei rolio ychydig yn deneuach.

Cylchoedd o roliau toes wedi’u tafellu yn cynnwys bacwn a winwns

Mae'r bara hwn heb furum yn hawdd i'w wneud ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio ham neu facwn a thomatos dros ben.

Tafelli o fara soda wedi’u llenwi â bacwn

Pei agored traddodiadol Gorllewin Lloegr sy'n rhad, yn eich llenwi ac yn gyflym i'w wneud. Mae'n well ei fwyta'n gynnes yn hytrach na'n boeth, ac mae'n hyfryd yn oer, felly mae'n ddelfrydol ar gyfer picnic neu focsys bwyd.

a baked filled pie with a crispy golden top layer